Cwpan Cymru: Porthmadog a Dinas Bangor 1876 ymysg timau'r bedwaredd rownd

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dinas Bangor 1876

Brynhawn Sadwrn bydd 16 o glybiau yn cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD.

Mae Cwpan Cymru JD yn hollol agored eleni wedi i’r Seintiau Newydd a Chei Connah golli yn y drydedd rownd, ac felly dim ond dau o gyn-enillwyr y cwpan sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Y Barri a’r Fflint.

Dim ond chwech o glybiau’r uwch gynghrair sydd wedi llwyddo i gyrraedd y bedwaredd rownd, a bydd pob un o rheiny yn benderfynol o fachu ar y cyfle i godi’r cwpan a sicrhau eu lle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.

A bydd o leiaf dau arall o glybiau’r Cymru Premier JD yn gadael y gystadleuaeth yn y rownd hon gan fod yna ddwy gêm sy’n cynnwys dau o dimau’r uwch gynghrair, sef Pen-y-bont yn erbyn Y Fflint, a Met Caerdydd yn erbyn Caernarfon.

Mae gan Y Barri a Bae Colwyn gyfle da i gyrraedd yr wyth olaf gan eu bod yn wynebu clybiau sydd yn hanner isaf eu cynghreiriau yn yr ail haen, gyda’r Barri’n croesawu Gresffordd i Barc Jenner, a Bae Colwyn yn teithio i Bontypridd.

Dinas Bangor 1876 yw’r unig glwb yng Nghymru sydd heb golli gêm y tymor hwn, ac ar ôl curo un o dimau cryfaf Cynghrair y Gogledd, Treffynnon, yn y rownd ddiwethaf, bydd y Dinasyddion, sydd ar frig Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin (haen 3), yn gobeithio achosi sioc arall yn erbyn un o glybiau gorau Cynghrair y De, Trefelin.

Fe ddylai fod yn achlysur arbennig ar Y Traeth pan fydd dau o gyn-gewri’r uwch gynghrair yn cyfarfod wrth i Borthmadog o’r drydedd haen herio Y Rhyl 1879.

Ac ar ôl colli am y tro cyntaf y tymor hwn y penwythnos diwethaf, a hynny yn erbyn Y Seintiau Newydd, bydd ceffylau blaen Cynghrair y Gogledd, Llandudno eisiau ymateb yn syth yn erbyn Caerau Trelái.

Yng ngêm ola’r prynhawn bydd Bae Trearddur a Dinas Casnewydd yn cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

Caerau Trelái (2) v Llandudno (2) | Dydd Sadwrn – 14:00

Mae Caerau Trelái yn anelu i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y ail dymor yn olynol, tra bod Llandudno wedi cyrraedd y bedwaredd rownd am y tro cyntaf ers tymor 2018/19.

Llynedd oedd y tro y cyntaf erioed i Gaerau Trelái gyrraedd rownd yr wyth olaf, ac hynny ar ôl curo’r Barri a’r Bala o’r uwch gynghrair, cyn colli yn erbyn Cei Connah.

Mae Caerau Trelái yn mwynhau tymor da ac yn eistedd yn y 5ed safle yng Nghynghrair y De gyda dwy gêm wrth gefn, ac felly mae dyrchafiad yn sicr ar y cardiau i’r clwb o ardal Caerdydd.

Dyrchafiad yw’r prif nod i Landudno hefyd, sydd ar frig Cynghrair y Gogledd ac yn anelu i ddychwelyd i’r Cymru Premier JD am y tro cyntaf ers 2019.

Doedd tîm Jordan Hadaway heb golli dim un o’u 18 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn (ennill 16, cyfartal 2), cyn colli’n rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn diwethaf (YSN 2-1 Lldo).

Dyw Caerau Trelái heb ildio unwaith yng Nghwpan Cymru y tymor hwn, ond mae eu gwrthwynebwyr hyd yma wedi bod yn glybiau o’r adrannau is.

Mae Llandudno ar y llaw arall wedi chwarae un gêm yn llai, ond wedi curo Cei Connah, clwb oedd wedi cyrraedd pedair o’r chwe rownd derfynol diwethaf.

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y ddau glwb yma, a’r unig gêm rhwng dau dîm o’r ail haen yn y rownd hon.

Dinas Bangor 1876 (3) v Trefelin (2) | Dydd Sadwrn – 14:00

Mae yna gyfoeth o hanes ac atgofion o lwyddiannau Cwpan Cymru ym Mangor gan i’r tlws gael ei godi ar wyth achlysur gan y Dinasyddion, ond gyda’r hen glwb gwreiddiol wedi ei ddiddymu, mae’r olynwyr bellach yn awyddus i efelychu campau’r clwb a fu.

Mae Dinas Bangor 1876 yn eistedd ar frig Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin, a nhw yw’r unig dîm yng Nghymru sydd heb golli gêm y tymor hwn (ennill 20, cyfartal 2).

Dechreuodd taith y Dinasyddion yn y rownd ragbrofol gyntaf, ac ers hynny mae tîm Michael Johnston wedi trechu dau glwb o’r ail haen, sef Cegidfa a Threffynnon.

Mae Trefelin wedi mynd ar rediad rhagorol o 10 gêm heb golli gan gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes.

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y clybiau ac mi fydd y tîm sy’n ail yng Nghynghrair y De yn gobeithio dod y clwb cyntaf i guro Dinas Bangor 1876 y tymor hwn.

Pen-y-bont (1) v Y Fflint (1) | Dydd Sadwrn – 14:00

Fel y clwb uchaf ar ôl yn y gystadleuaeth (3ydd yn y Cymru Premier JD), Pen-y-bont yw un o’r ffefrynnau i godi’r cwpan y tymor hwn.

Chwaraeodd Pen-y-bont yn y rownd derfynol am y tro cyntaf yn nhymor 2021/22 gan golli o 3-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a bydd tîm Rhys Griffiths eisiau mynd gam ymhellach eleni.

Y Fflint oedd enillwyr Cwpan Cymru 1954 ar ôl curo Caer yn y rownd derfynol ar y Cae Ras, ond dyw’r Sidanwyr heb gyrraedd y rownd derfynol yn y 70 mlynedd ers hynny.

Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u saith gêm ddiwethaf, a daeth y fuddugoliaeth honno yn erbyn 10-dyn Airbus UK yn rownd ddiwethaf y cwpan.

Tydi Pen-y-bont heb golli yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (ennill 5, cyfartal 1), ac mae’r Gleision wedi sgorio naw gôl mewn dwy gêm gynghrair yn erbyn carfan Lee Fowler y tymor hwn.

Sgoriodd James Crole yn y ddwy gêm flaenorol yn erbyn Y Fflint, ac mae blaenwr Pen-y-bont wedi bod ar dân y tymor yma gan sgorio 19 gôl ym mhob cystadleuaeth, yn cynnwys pump yng Nghwpan Cymru.

Pontypridd (2) v Bae Colwyn (1) | Dydd Sadwrn – 14:00

Dyw Bae Colwyn erioed wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD, ond mae gan y Gwylanod gyfle gwirioneddol i gamu i’r wyth olaf y tymor hwn.

Mae Pontypridd yn y 10fed safle yng Nghynghrair y De, ond mae’r clwb ar rediad da gan nad ydyn nhw wedi colli yn eu pum gêm ddiwethaf (ennill 3, cyfartal 2).

Bydd Pontypridd yn anelu i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers 1996, tra bod Bae Colwyn wedi gwneud hynny ddwywaith yn y pedair blynedd diwethaf.

Chwaraeodd y clybiau’n erbyn ei gilydd bedair gwaith yn nhymor 2023/24, sef y tymor ble syrthiodd y ddau glwb o’r uwch gynghrair, ac roedd eu record benben yn hafal gyda’r ddau glwb yn ennill dwy gêm yr un.

Enillodd Bae Colwyn yn ddigon cyfforddus ar eu taith i Gaerfyrddin yn y rownd ddiwethaf, a bydd Michael Wilde yn gobeithio am ganlyniad tebyg yn erbyn clwb arall o Gynghrair y De y penwythnos yma.

Porthmadog (3) v Y Rhyl 1879 (2) | Dydd Sadwrn – 14:00

Bydd hi’n gêm gystadleuol ar Y Traeth rhwng y tîm sy’n 2il yng Nghynghrair Ardal y Gogledd Orllewin, a’r tîm sy’n 8fed yng Nghynghrair y Gogledd.

Mae Porthmadog wedi cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru am yr eildro mewn tair blynedd, ond dyma’r tro cyntaf i glwb Y Rhyl 1879 gyrraedd y bedwaredd rownd ers i’r clwb newydd gael ei ffurfio yn 2020.

Enillodd hen glwb Y Rhyl y cwpan ar bedwar achlysur, gyda’r llwyddiant diwethaf yn dod yn 2006 wrth guro Bangor yn y rownd derfynol ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Mae Porthmadog wedi gorfod ennill pum gêm i gyrraedd y rownd yma, gan guro dau dîm o Gynghrair y Gogledd ar giciau o’r smotyn.

Bydd Y Rhyl 1879 yn llawn hyder hefyd ar ôl curo Treffynnon y penwythnos diwethaf, sef y tîm sy’n 2il yng Nghynghrair y Gogledd.

Chwaraeodd y clybiau’n erbyn ei gilydd deirgwaith yn y drydedd haen y tymor diwethaf gyda Porthmadog yn ennill ddwywaith, ond Y Rhyl 1879 yn ennill y frwydr olaf ym mis Ebrill cyn sicrhau dyrchafiad.

Y Barri (1) v Gresffordd (2) | Dydd Sadwrn – 14:00

Mae’r Barri wedi codi’r cwpan ar bedwar achlysur gan ennill y gystadleuaeth deirgwaith yn olynol rhwng 2001 a 2003.

Bydd y Dreigiau yn gobeithio cyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf ers tymor 2018/19 pan aeth Y Barri ymlaen i’r rownd gynderfynol cyn colli 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Mae’r Barri ar rediad arbennig o 10 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi cadw saith llechen lân yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae Cwpan Cymru wedi bod yn fendith i Gresffordd y tymor yma gyda’r clwb yn cael cyfnod anodd yng Nghynghrair y Gogledd, ac yn eistedd un safle oddi ar y gwaelod ar ôl rhediad o wyth gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.

Mae newidiadau mawr wedi digwydd tu ôl y llen yn ddiweddar wrth i Eddie Maurice-Jones gamu i’r neilltu ar ôl pum mlynedd wrth y llyw, a Dave Evans sydd wedi ei benodi fel rheolwr newydd Gresffordd llai na phythefnos yn ôl.

Bydd hi’n frwydr ddifyr rhwng blaenwr Y Barri, Ollie Hulbert, ac ymosodwr Gresffordd, Jake Roberts, gyda’r ddau wedi taro pum gôl yr un yn y gystadleuaeth hyd yma.

Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau ers mis Tachwedd 2022 pan enillodd Gresfordd o 2-0 ar Barc Jenner yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.

Met Caerdydd (1) v Caernarfon (1) | Dydd Sadwrn – 17:25 (S4C)

Yn un o gemau mwyaf y penwythnos bydd dau o glybiau’r uwch gynghrair yn cyfarfod ar Gampws Cyncoed, a’r ddau glwb yn ymwybodol o bwysigrwydd y gêm.

Dyw Met Caerdydd na Chaernarfon erioed wedi codi Cwpan Cymru, ac mae’n bosib na ddaw cyfle gwell am amser maith wrth ystyried cryfder y clybiau sydd eisoes wedi cael eu gyrru allan o’r gystadleuaeth.

Ac mae’r diolch pennaf am hynny i Met Caerdydd, gan mai nhw achosodd sioc fawr y rownd ddiwethaf drwy guro’r deiliaid, Y Seintiau Newydd, ac mi fydd y myfyrwyr yn teimlo eu bod nhw felly yn haeddu cael camu ymlaen i’r wyth olaf, o leiaf.

Dyw Caernarfon heb ildio gôl yn y gystadleuaeth hyd yma ar ôl wynebu dau glwb o’r ail haen, ond dyw’r Cofis heb fod yn tanio yn ddiweddar gan ennill dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf, ac honno yn erbyn y clwb ar waelod Cynghrair y Gogledd, Penrhyncoch.

Mae Caernarfon wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar pum achlysur yn y gorffennol, ond erioed wedi camu i’r rownd derfynol, a dyna fydd y nod eleni.

Fe wnaeth InterCable Tel godi’r cwpan yn 1999 cyn uno gyda Met Caerdydd i greu’r clwb presennol, ac mae’r myfyrwyr wedi cyrraedd y rownd gynderfynol deirgwaith ers 2018.

Yn nhymor 2019/20 roedd Met Caerdydd a Chaernarfon i fod i gyfarfod yn y rownd gynderfynol, ond fe gafodd y gystadleuaeth ei diddymu oherwydd Covid-19.

Ar ôl colli dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth mae momentwm o blaid Met Caerdydd, a bydd y myfyrwyr yn ffyddiog ar ôl curo Caernarfon o 3-0 yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau ym mis Medi.

Bae Trearddur (3) v Dinas Casnewydd (2) | Dydd Sadwrn – 17:30

Mae Bae Trearddur a Dinas Casnewydd wedi cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

Er mae Bae Trearddur yw’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth (4ydd yng Nghynghrair Ardal Gogledd Orllewin) mae’r tîm wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf ac mae sawl cyn-chwaraewr o’r uwch gynghrair ymysg y garfan.

Mae nifer o wynebau cyfarwydd yng ngharfan Dinas Casnewydd hefyd, yn bennaf dau o gyn-gapteiniaid Y Barri, sef Kayne McLaggon a Luke Cooper.

Ond blaenwr Bae Trearddur, Tom Hilditch fydd yr un i’w wylio brynhawn Sadwrn, gan mae fo yw prif sgoriwr y gystadleuaeth eleni gyda naw o goliau mewn pedair gêm, yn cynnwys hatric yn y rownd ddiwethaf yn erbyn Glyn-nedd.

Dyw Dinas Casnewydd heb fod ar eu gorau yn ddiweddar gan ennill dim ond un o’u pum gêm ddiwethaf, a honno ar giciau o’r smotyn yn erbyn Blaenafon o’r haen is.

Gemau eraill yn y bedwaredd rownd:

14:00 - Caerau Trelai (2) v Llandudno (2)

14:00 - Dinas Bangor 1876 (3) v Trefelin (2)

14:00 - Pen-y-bont (1) v Y Fflint (1)

14:00 - Pontypridd (2) v Bae Colwyn (1)

14:00 - Porthmadog (3) v Y Rhyl 1879 (2)

14:00 - Y Barri (1) v Gresffordd (2)

17:25 - Met Caerdydd (1) v Caernarfon (1)

17:30 - Bae Trearddur (3) v Dinas Casnewydd (2)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.