Wrecsam ar restr ‘dinasoedd mwyaf hael Prydain’ ar ôl ymgyrch mam
Mae Wrecsam wedi cyrraedd rhestr ‘dinasoedd mwyaf hael Prydain’ am y tro cyntaf eleni ar ôl ymgyrch gan fam i’w mab gael llawdriniaeth ar ei galon yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r ddinas yn y degfed safle ar y rhestr llwyfan codi arian GoFundMe, a oedd hefyd yn cynnwys Caerdydd yn y pedwerydd safle.
Mae’r rhestr yn cymharu nifer y rhoddwyr mewn dinas gyda’r boblogaeth sy’n byw yno.
Lerpwl yw’r ddinas fwyaf hael yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol.
Fe gyrhaeddodd Wrecsam y rhestr yn dilyn ymgyrch gan y fam Jasmin Roberts, a oedd angen codi £1.5 miliwn i'w mab blwydd oed, Ollie, gael llawdriniaeth ar y galon yn yr Unol Daleithiau.
Fe fydd Ollie yn cael y llawdriniaeth yn Ysbyty Plant Stanford yng Nghaliffornia ym mis Ionawr ar ôl cyrraedd y targed codi arian.
Yr ymgyrch oedd y digwyddiad codi arian mwyaf yn fyd-eang eleni yn seiliedig ar nifer y rhoddion, meddai GoFundMe.
Fe'i cefnogwyd gan yr actor Hollywood a chyd-gadeirydd Clwb Pêl-droed Wrecsam Ryan Reynolds, a roddodd £10,000.
Dywedodd prif weithredwr GoFundMe, Tim Cadogan: “Rydym wedi gweld pobl ledled y DU yn helpu ei gilydd mewn ffyrdd rhyfeddol eleni, ac mae Lerpwl yn cymryd y safle uchaf unwaith eto yn dyst i haelioni'r gymuned yno.”
