Pwllheli: Teyrngedau i Wil Martin, un o hoelion wyth rygbi'r gogledd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Wil Martin, oedd yn un o hoelion wyth Clwb Rygbi Pwllheli am ddegawdau, yn dilyn ei farwolaeth.
Mewn cyhoeddiad ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb nos Lun mai Mr Martin oedd "yn fwy na neb...yn gyfrifol am lwyddiant mawr y clwb a’r datblygiadau cyson sydd i’w weld ar gaeau chwarae Bodegroes ers degawdau."
Roedd wedi bod yn gyn-chwaraewr, yn gapten a chadeirydd gyda Chlwb Rygbi Pwllheli ers dros 30 o flynyddoedd.
"Bu Wil yn gadeirydd drwy gyfnodau llwm a disglair, gyda oes o waith diflino, er lles rygbi yma yn Llỳn," ychwanegodd y clwb.
"Bydd llawer o’i ffrindiau byd-eang, ei deulu estynedig a’i gydnabyddion yn hel atgofion heno o’r teithiau, y gemau mawr a’u profiadau ledled y byd gyda Wil.
"Diolch am dy gyfraniad enfawr, Wil."
Dywedodd Clwb Rygbi Dolgellau fod y newyddion yn golled fawr i Bwllheli a rygbi Gogledd Cymru, gyda chlybiau rygbi Nant Conwy, Llandudno ac Abergele hefyd yn nodi ei gyfraniad mewn negeseuon o gydymdeimlad i glwb Pwllheli.
Llun: Clwb Rygbi Pwllheli