Creu'r geiriadur cyntaf o hen ieithoedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon

Dr Simon Rodway

Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth wrthi yn llunio'r geiriadur cyflawn cyntaf o ieithoedd Celtaidd hynafol Prydain ac Iwerddon.

Am y tro cyntaf, bydd y geiriadur newydd yn datgelu'r holl amrywiaeth a thebygrwydd rhwng yr ieithoedd Celtaidd ym Mhrydain ac Iwerddon hyd at y flwyddyn 500.

Mae’r ieithoedd Celtaidd modern – Cymraeg, Gaeleg yr Alban, Manaweg, Llydaweg, Cernyweg a’r Wyddeleg – yn ddisgynyddion i ieithoedd Celtaidd a oedd yn cael eu siarad yn yr ynysoedd hyn cyn dyfodiad y Rhufeiniaid i Brydain.

Mae'r ieithoedd Celtaidd heddiw yn wahanol iawn i'w gilydd, ond mae modd gweld tebygrwydd rhwng geiriau Cymraeg fel ‘môr’ a'r Hen Wyddeleg ‘muir’, sy'n cyfateb i ‘Mori’ mewn hen enwau o Brydain, fel Moridunum ‘Caerfyrddin’ a Morikambe ‘Morecambe’.

Bydd Dr Simon Rodway, uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn arwain y gwaith, ar ôl i'r brifysgol dderbyn grant ymchwil tair blynedd oddi wrth Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Bydd y prosiect yn tynnu ar dystiolaeth ieithyddol hynafol o Brydain ac Iwerddon, gan gynnwys enwau lleoedd ac enwau personol Celtaidd a gofnodwyd mewn testunau Groeg a Lladin, dyrnaid o arysgrifau Celteg o Brydain Rufeinig, a’r arysgrifau cynharaf o Iwerddon a Phrydain sy’n defnyddio’r wyddor ‘Ogham’.

“Mae’n hynod o gyffrous i arwain y prosiect hwn a llunio’r geiriadur cyntaf o’r math hwn,” meddai Dr Rodway.

“Nid yw’r gwahanol ffynonellau hyn erioed wedi cael eu tynnu at ei gilydd o’r blaen mewn ffordd sy’n cynnig syniad mor gynhwysfawr i ni o natur yr ieithoedd Celtaidd a siaredid yn yr ynysoedd hyn ar wawr y cyfnod hanesyddol. 

“Bydd hefyd yn dangos sut mae’r dystiolaeth honno’n cymharu â’r cofnod llawer mwy cyflawn o’r cyfnodau canoloesol a modern o’r Gymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg, Manaweg a Chernyweg.”

Ffansïol’

Bydd y prosiect hefyd yn pwyso a mesur damcaniaethau am ieithoedd eraill a siaredid ym Mhrydain ac Iwerddon mewn cynhanes a’u perthynas â’r ieithoedd Celtaidd.

Ychwanegodd Dr Rodway: “Er ei bod yn sicr bod ieithoedd nad ydyn nhw’n rhai Celtaidd yn cael eu siarad yn yr ynysoedd hyn cyn yr ieithoedd Celtaidd, ac am beth amser ochr yn ochr â nhw, nid oes gennym ni unrhyw dystiolaeth uniongyrchol ddiamheuol ar gyfer yr ieithoedd hynny.

“Mae damcaniaethau amdanyn nhw’n amrywio o’r gofalus i’r ffansïol. Bydd casgliad llawn o’r dystiolaeth sydd ar gael yn caniatáu i ni eu gwerthuso’n iawn.

“Bydd y darlun sy’n deillio o hyn o dirwedd ieithyddol Prydain ac Iwerddon yn y cyfnod cynharaf o ddiddordeb mawr nid yn unig i ieithyddion, ond hefyd i haneswyr, archaeolegwyr ac archaeo-genetegwyr. 

“Mae’r prosiect hwn yn tanlinellu unwaith eto pwysigrwydd yr Adran yn Aberystwyth i astudio’r Gelteg hynafol, gan ddilyn ôl troed prosiectau pwysig ar y dystiolaeth Geltaidd gynnar o gyfandir Ewrop ac adeiladu ar eu llwyddiant.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.