Hwyliwr ifanc yn 'browd iawn' o gynrychioli Prydain ar lwyfan rhyngwladol
Mae hwyliwr ifanc o’r gogledd wedi dweud ei fod yn “browd iawn” o gynrychioli Prydain ym mhencampwriaeth ryngwladol ym Mhortiwgal yn ddiweddarach y mis.
Fe fydd Jac Bailey a’i bartner Ben Sinfield o Glwb Hwylio Y Felinheli yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Hwylio Ieuenctid y Byd yn Vilamoura, Portiwgal rhwng 12 a 20 Rhagfyr eleni.
Mae'r bencampwriaeth byd yn cael ei hystyried fel rhai Gemau Olympaidd ar lefel ieuenctid.
“Dwi’n prowd iawn o gallu cynrychioli Prydain oherwydd mae ond dau cwch o Prydain yn gallu qualifio i mynd," meddai Jac Bailey.
“So mae o yr top o be’ ‘da chi’n gallu ‘neud yn youth classes.
“Mae’n diwrnodau hir iawn ar y dŵr, so ‘da chi’n gorfod cadw energy i fyny oherwydd dan ni’n allan am chwech neu saith awr bob dydd am bump diwrnod so mae’n hir iawn."
Mae’r pâr, sydd wedi bod yn hwylio gyda’i gilydd ers 2019, yn bencampwyr cenedlaethol yn eu categori.
Fe enillon nhw hefyd brif wobr ieuenctid y Gymdeithas Hwylio yn gynharach eleni.
Dros y penwythnos fe ddaethon nhw hefyd i'r brig ym Mhencampwriaeth y Gaeaf sef cystadleuaeth dros Brydain. “Mae’n rhoi hope i ni mynd i Portiwgal a ‘neud yn dda.”
Fe fydd cystadlu yn Vilamoura yn her meddai Jac.
“Mae’r tonnau yn anodd iawn ym Mhortiwgal, ma’ nhw’n dod o’r ochr weithiau sydd ‘neud y pŵer yn yr hwyl yn newid lot. So mae hwnna’n anodd iawn i ‘neud y cwch yn cario ‘mlaen yn mynd yn sydyn."
Ond mae'n dweud bod Pwllheli yn le da i ymarfer. "Mae’n similar i’r conditions ym Mhortiwgal so dan ni ‘di bod yna lot."
Mae Jac yn gweld y gystadleuaeth fel un fydd yn brofiad da iddo fo a'i bartner hwylio.
“Dwi’n gobeithio bydd hwn yn platfform i ni wella ac mae pobl yn weld ni yn ‘neud yn dda ac efallai mae’n ‘neud sponsors neu petha fel hwnna i ni.
“Dwi’n gobeithio mynd i’r Gemau Olympaidd efallai pan dwi’n oedolyn so mae o’n pwysig iawn i gael profiad fel hyn."