Clwb Athletau Penarth yn 'cynllunio'r camau nesaf' wedi tân dinistriol

02/12/2025
Clwb Rygbi Penarth

Mae aelodau Clwb Athletau Penarth, gafodd ei ddifrodi'n sylweddol mewn tân, wedi cyhoeddi diweddariad am sefyllfa'r clwb nos Fawrth.

Mae'r safle yn gartref i Glwb Rygbi Penarth, Clwb Criced Penarth, a Chlwb Hoci Menywod Penarth.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb bod aelodau hŷn o bob adran wedi bod yn ôl ar y safle ddydd Mawrth i ddechrau "cynllunio'r camau nesaf." 

Bydd y brif ystafell fawr, a ddioddefodd y difrod mwyaf sylweddol, yn cael ei gwneud yn ddiogel a'i glanhau erbyn y penwythnos. 

Mae'r Ystafell Hir, a gafodd ei difrodi gan fwg yn unig, yn cael ei glanhau'n drylwyr.

Oherwydd maint y difrod a'r gwaith arbenigol sydd ei angen, mae angen contractwyr proffesiynol i gwblhau y gwaith, ond mae'r clwb yn "hynod ddiolchgar am y cynigion niferus o gymorth gan y gymuned."

Gêm gwpan

Ychwanegodd datganiad yr aelodau: "Rydym yn obeithiol erbyn y penwythnos y bydd y gymuned yn gallu ymgynnull yn ddiogel yn yr Ystafell Hir cyn gêm gwpan y Tîm Rygbi Cyntaf. 

"Bydd Undeb Rygbi Cymru yn darparu cludiant i leoliad y gêm. Mae'r clwb hefyd yn anelu at agor ar sail gyfyngedig fore Sul i gefnogi hyfforddiant yr adrannau iau.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Undeb Rygbi Cymru a Chriced Cymru, sy'n darparu cludiant a thoiledau cludadwy i helpu i wneud hyn yn bosibl."

Dywedodd y clwb eu bod yn "gwerthfawrogi'n fawr yr holl gynigion o gefnogaeth i'r clwb, ein staff, a'n haelodau. 

"Byddwn yn cysylltu cyn gynted ag y bydd gennym lwybr cliriach ymlaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.