'Gwaith i'w wneud o hyd' i chwalu stigma HIV
Fe fydd Senedd Cymru yn cynnal digwyddiad blynyddol nos Fawrth i nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud tuag at ddod â throsglwyddiadau newydd o HIV i ben.
Mae tua 2,800 o bobol yn byw gyda HIV (y feirws sy’n achosi Aids) yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn ôl un elusen sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad yn y Senedd, mae ‘na waith i’w wneud o hyd i chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig â’r salwch.
Mae Fast Track Cymru yn gweithio i chwalu’r stigma hwnnw ac i gynyddu mynediad at ofal.
Esboniodd Sarah Maslen, rheolwraig yr elusen, fod “nifer yn dal i gofio’r hysbyseb teledu ‘na gyda’r garreg fedd Aids. Fe wnaeth hynny glymu HIV a homoffobia gyda’i gilydd.”
Mae’r elusen yn cynnal gweithgareddau cymunedol a phrosiectau cenedlaethol ar hyd a lled Cymru.
Maen nhw hefyd wedi lansio nifer o adnoddau i gefnogi addysg HIV sydd yn gynhwysol a di-stigma mewn ysgolion ledled Cymru.
Gobaith Sarah yw cael mwy o arian a chefnogaeth er mwyn gallu targedu’r cymunedau sydd heb addysg neu adnoddau i ddeall HIV a sut i’w osgoi.
“Mae ‘na gymunedau o fewn Powys, er enghraifft, sydd heb brif ysbytai a chlinigau iechyd rhywiol.
“Mae gwybod y ffeithiau am HIV yn un o’r ffurf hawsaf i frwydro stigma.”
Cynllun Llywodraeth Cymru
Dros yr haf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, gadarnhau y bydd cyllid o £4.7 miliwn y flwyddyn ar gael dros y ddwy flynedd ariannol nesaf i geisio cael gwared ar drosglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030.
Bydd £3.9 miliwn o’r arian yma yn mynd tuag at brofi ar lein - profion fydd yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Y gobaith yw y bydd pobl yn teimlo’n fwy cyffyrddus i dderbyn prawf HIV.
Esboniodd Sarah o Fast Track Wales fod y mwyafrif o drosglwyddiadau yn dod o ryw gwahanrywiol (heterosexual). “Nid ydy HIV yn gwahaniaethu; ond, yn anffodus, mae rhai pobol dal yn.”
PrEP
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio gwella mynediad at PrEP ('pre-exposure prophylaxis') - meddyginiaeth sy’n lleihau’r risg o ddal HIV o tua 99%, os yw’n cael ei gymryd yn gywir.
Dywedodd Jeremy Miles: “Mae angen inni barhau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd profi ac o PrEP i’r rhai sy’n wynebu risg, yn ogystal ag atgyfnerthu negeseuon allweddol, gan gynnwys na all pobl sydd ar driniaeth effeithiol drosglwyddo HIV i eraill.”
Ar Ddiwrnod Aids y Byd ddydd Llun, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV i fynd i'r afael â stigma a rhoi terfyn ar drosglwyddiadau yn Lloegr erbyn 2030, gyda chefnogaeth o £170 miliwn.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, Wes Streeting: “Mae triniaeth HIV wedi newid. Heddiw, mae pobl sy’n byw gyda HIV yn gallu byw bywydau llawn ac iach heb drosglwyddo’r feirws ymlaen.”
Gostyngiad
Llynedd, roedd ‘na ostyngiad o 20% mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru. Ar yr un pryd, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen wedi cael eu profi am HIV yng Nghymru, ac mae presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth ataliol ar eu lefel uchaf ers eu cyflwyno.
Mae’r data diweddaraf yn adroddiad blynyddol HIV Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod diagnosisau newydd o HIV wedi gostwng i 73 o achosion yn 2024 o'u cymharu â 91 o achosion y flwyddyn gynt.
Llun: PA