Anrhydeddu dyn o Sir Benfro a fu farw o ganlyniad i Aids yn ei dref enedigol
Mae dyn o Sir Benfro oedd ymhlith rhai o’r cyntaf yn y DU i farw o ganlyniad i salwch oedd yn gysylltiedig â chyflwr Aids wedi cael ei anrhydeddu.
Bu farw Terrence Higgins o’r Hwlffordd yn 37 oed yn 1982.
Yn dilyn ei farwolaeth fe wnaeth ei bartner a'i ffrindiau sefydlu elusen er cof amdano.
Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn parhau i fod yr elusen fwyaf ar gyfer HIV yn y DU hyd heddiw.
Ac mae Mr Higgins bellach wedi cael ei anrhydeddu yn ei dref enedigol.
Ddydd Mawrth fe gafodd dau blac eu dadorchuddio ar hen safle Ysbyty Priory Mount, ble gafodd Mr Higgins ei eni yn 1945.
Mae 'na un plac yn Gymraeg, ac un yn Saesneg er cof amdano.
Dywedodd Martyn Butler OBE, sef cyd-sylfaenydd yr ymddiriedolaeth, bod gweld enw Mr Higgins ar y placiau’n “anghredadwy.”
“Rwyf wedi synnu gan y lefel o gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
Pwy oedd Terrence Higgins?
Roedd Terrence Lionel Seymour Higgins, neu Terry, yn ffigwr lled adnabyddus yn y frwydr yn erbyn HIV ac Aids.
Roedd wedi byw yn Hwlffordd am 18 mlynedd cyn iddo ymuno â’r Llynges Frenhinol. Cafodd ei ddiswyddo yn ddiweddarach.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, roedd wedi gofyn iddynt ei ymddiswyddo ar ôl rhoi gwybod iddynt am ei rywioldeb.
Cafodd ei gais ei wrthod. Penderfynodd baentio symbolau morthwyl a chryman coch ar un o longau’r Llynges, ac fe gafodd wybod y byddai'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith ar unwaith wedi hynny.
Yn dilyn ei gyfnod gyda’r Llynges fe ddaeth yn DJ.
Ym mis Mehefin 1982 fe wnaeth lewygu tra’n gweithio mewn clwb nos yn Llundain.
Cafodd ddiagnosis o niwmonia parasitig ac fe fu farw'n ddiweddarach.
Mae ei deulu bellach yn benderfynol o sicrhau nad oes unrhyw achosion newydd o HIV yn y DU erbyn 2030.
Mae nifer yr achosion newydd o HIV yng Nghymru wedi cwympo o 91 yn 2023, i 73 yn 2024, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
