12 alarch wedi marw mewn llyn yn Abertawe

Llyn y Fendrod

Mae 12 o elyrch wedi marw mewn llyn yn Abertawe. 

Mae arwydd yn Llyn y Fendrod yn Llansamlet yn dweud fod Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (Defra) wedi cael gwybod a bod symptomau ffliw adar yn bresennol, ond nid yw'n glir pwy oedd wedi gosod yr arwydd.

Mae nifer cynyddol o achosion o ffliw adar wedi eu cadarnhau yn y DU ac fe ddaeth mesurau llym i rym fis diwethaf ar gyfer perchnogion adar caeth. 

Er hyn mae Defra wedi dweud nad ydynt wedi cadarnhau presenoldeb ffliw adar yn Llyn y Fendrod. 

Un sy'n cerdded o gwmpas y llyn yn aml ydy David Wood, ac fe wnaeth sylwi ar alarch oedd wedi marw yno ddydd Gwener diwethaf, dau alarch ddydd Sadwrn a phedwar arall ddydd Sul. 

Dywedodd ei fod wedi cysylltu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ddydd Gwener i roi gwybod fod alarch wedi marw yno, ac fe gafodd wybod fod rhywun arall eisoes wedi bod mewn cyswllt. 

Ychwanegodd hefyd ei fod wedi ceisio cysylltu eto ddydd Sadwrn i ddweud fod dau yn rhagor wedi marw, ond nad oedd hyn yn bosib. 

Fe wnaeth Mr Wood amcangyfrif fod y llyn yn gartref i o gwmpas 30 o elyrch yn ogystal â gwyddau ac adar eraill. 

Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod nhw wedi casglu tua 12 o elyrch oedd wedi marw o'r llyn, ond mai nid nhw oedd wedi gosod yr arwydd.

Pan ofynnwyd os oedd ffliw adar yn bresennol yn yr ardal, dywedodd llefarydd ar ran Defra: "Nid ydym ni wedi cadarnhau fod ffliw adar yn bresennol yn y lleoliad yna."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.