Coroni sinema yng Ngwynedd fel yr un orau yn y DU
Mae sinema yng Ngwynedd wedi dod i’r brig gan gipio'r wobr am fod y sinema annibynnol orau yn y DU.
Sinema'r Llusern Hud (‘The Magic Lantern’) yn Nhywyn daeth yn fuddugol yng Ngwobrau Sinema'r Flwyddyn BIFA 2025.
Roedd dros 130 o sinemâu annibynnol ar hyd y DU wedi cystadlu fel rhan o’r wobr a gafodd ei chynnal gan Wobrau Ffilm Annibynnol Prydain yn Llundain nos Sul.
Mewn datganiad dywedodd Sinema’r Llusern Hud: “Mae’r wobr yn dathlu sinemâu yn y DU sy’n dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd ac yn hyrwyddo gwneuthurwyr ffilm annibynnol, ac yn cael eu penderfynu gan bobl sy’n mynd i’r sinema.
“Rydyn ni mor falch o’n tîm anhygoel ac mor ddiolchgar i’n cynulleidfa a’n cymuned wych, sydd wedi ein cefnogi ac wedi pleidleisio ar ein cyfer.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb bob un ohonoch.
“Fe aeth Sara ac Ella [o’r tîm] i’r seremoni yn y Roundhouse yn Llundain ddydd Sul… tra bod gweddill y tîm yn Nhywyn wedi trefnu parti gwych wrth i ni i gyd aros am y canlyniad.”
Dywedodd y llefarydd eu bod yn “diolch i bawb, o waelod ein calonnau” am yr ymateb a gafwyd yn ystod y seremoni wobrwyo.
Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, bod eu buddugoliaeth yn dangos eu “hymrwymiad” a’u “llwyddiant” yn y diwydiant.
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai’r sinema yn “parhau i ysbrydoli a llonni cynulleidfaoedd am flynyddoedd i ddod.
“Llongyfarchiadau mawr!,” ychwanegodd y gwleidydd.

