Dirwy i gyn athro o Aberdâr a wnaeth brynu alcohol i ddisgybl
Mae cyn athro ysgol uwchradd wedi derbyn dirwy am "ymddygiad anaddas tuag at ddisgybl" ar ôl iddo brynu alcohol i blentyn.
Roedd Richard Pugh, 40 oed, o Aberdâr, wedi prynu can o'r ddiod 'Malibu' ar ran plentyn oedd o dan 18 oed ym mis Ionawr 2025, pan yr oedd yn gweithio fel pennaeth adran mewn ysgol yng Nghastell-nedd.
Fe wnaeth Pugh bledio’n ddieuog i'r cyhuddiad o brynu alcohol ar ran plentyn o dan 18 oed yn wreiddiol, cyn newid ei ble mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr ar 19 Tachwedd.
Cafodd ddirwy o £500, yn ogystal â gorchymun i dalu costau llys o £200 a chostau erlyn o £650. Mae hefyd wedi derbyn gorchymyn sy'n ei atal rhag gwneud unrhyw gysylltiad â’r plentyn am gyfnod o 12 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rachel Thomas: “Roedd ymddygiad amhriodol Richard Pugh wedi dwyn anfri ar ei broffesiwn â’r ysgol roedd yn gweithio ynddi."
Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod modd i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500009796.