Busnesau Sir Benfro'n pryderu am eu dyfodol wedi newidiadau treth
Busnesau Sir Benfro'n pryderu am eu dyfodol wedi newidiadau treth
Mae nifer o fusnesau yn Sir Benfro wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw yn pryderu y bydd eu trethi busnes yn cynyddu yn sylweddol ym mis Ebrill, ac y gallai hynny fygwth dyfodol rhai.
Maen nhw wedi cael gwybod bod gwerth ardrethol eu busnesau neu rateable value - wedi cynyddu o dan drefn ail brisio sydd yn cael ei chynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio bob tair blynedd.
Mae'r broses yn digwydd ar draws Cymru a Lloegr, gyda gwerth adrethol rhai busnesau yn cynyddu ac eraill yn lleihau.
Mae'r gwerth ardrethol wedyn yn cael ei luosi gyda lluosydd ar gyfer trethi annomestig i bennu'r trethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Llywodraeth Cymru sydd yn pennu'r lluosydd yng Nghymru.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26, y lluosydd yng Nghymru yw 0.568, ond dyw hi ddim yn glir beth fydd y ffigwr o fis Ebrill ymlaen eto.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi darparu £1bn o ryddhad ardrethi dros gyfnod o chwe blynedd yn olynol i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn parhau i roi rhyddhad ardrethi gwerth £250m i fusnesau, a bydd bron i hanner y trethdalwyr yng Nghymru, sydd yn cynnwys nifer o fusnesau bach ar draws y wlad, yn elwa o ryddhad ardrethi llawn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ail brisio wrth galon eu newidiadau i drethi busnes, rhywbeth mae "busnesau wedi croesawu", medden nhw, gan bod ail brisio yn golygu "gwell tegwch yn y system, er mwyn diweddaru biliau i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo" ond dyw hynny ddim yn cynyddu refeniw yn y pendraw.
Yng Nghwm Gwaun, mae gwesty Gelli Fawr wedi cael gwybod bod gwerth ardrethol y busnes yn cynyddu o £45,000 i £108,000
Mae Charlie Edge yn gweithio fel cogydd yn y gwesty. Dywedodd: "Mae'n mynd lan dros £60 mil. Mae'n rhaid i gost hynny ddod mas o rhywle.
"Ni'n lwcus ein bod ni yn gwneud priodasau a ni'n gwybod beth sydd yn dod mewn i'r busnes, ond d'wi'n teimlo yn sori dros y bois sydd yn rhedeg y pubs yn Nhrefdraeth. Bydd rhaid i bopeth fynd lan mewn pris.
"Y peints, aros fan hyn a'r bwyd, ond mae pobl yn bwco priodasau dwy flynedd 'mlaen ac maen nhw wedi talu, a da ni methu cynyddu'r pris i rheina sydd yn dod mewn. Mae'n teimlo fel maen nhw'n gweud so ni moyn chi ar agor."
Mae tafarn boblogaidd y Golden Lion yn Nhrefdraeth hefyd wedi cael gwybod y bydd gwerth ardrethol y busnes yn cynyddu o £98,000 i £130,000, sydd yn gynnydd o 33%.
'Pryderus'
Daron Russell Paish yw perchennog y dafarn. "Rwy'n bryderus iawn ac o siarad gyda busnesau eraill yn y dref, maen nhw yn poeni hefyd," meddai.
"Doedd yna ddim rhybudd o'r ail brisio, a dim awgrym sut y bydd yn effeithio ar y busnes. Petasai'n daliad rhent neu'n forgais, yna fe fyddech chi yn cael rhybudd bod e'n cynyddu. Does yna ddim ymgynghori na rhybudd wedi bod i'r cynnydd. Rwy'n meddwl fod y trethi busnes yn sicr o gynyddu. Gallai ddim gweld sut y gall y lluosgydd newid gymaint â hynny i ddod â'r trethi lawr.
"Os chi'n talu mwy o dreth, mae'n rhaid i chi werthu mwy o ddiod a bwyd, a mwy o lety. Ni'n amcangyfrif y bydd rhaid gwerthu rhwng 250-300 o brydau bwyd ychwanegol yr wythnos i dalu am hyn. Ni gweld gwahaniaeth eleni. Mae arian yn dynn a dyw pobl ddim yn gwario gymaint, ac mae prisiau trydan, nwy a staffio wedi cynyddu, a bwyd. Mae maint yr elw yn lleihau bob blwyddyn, a dyma broblem fawr arall i fusnesau," meddai Mr Paish.
Yn ôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'r ail brisio yn digwydd bob tair blynedd i "adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo."
"Yn sgil ail brisio, rydym yn disgwyl gweld gwerth adrethol yn cynyddu ac yn lleihau yn ôl y math o eiddo a'r lleoliad daearyddol, " meddai'r asiantaeth.
"Yn ystod yr ail brisio diwethaf, roedd y pandemig wedi effeithio'n fawr ar nifer o sectorau, gan gynnwys lletygarwch, oedd yn golygu bod eu gwerth adrethol yn is. Mae busnesau sydd wedi gweld adferiad yn debygol o weld cynnydd yn y gwerth adrethol."
Yn ôl y Cynghorydd annibynnol Huw Murphy sydd yn cynrychioli ardal Trefdraeth ar Gyngor Sir Penfro, mae nifer fawr o fusnesau wedi cysylltu gyda phryderon ar ôl gweld cynnydd sylweddol yn eu gwerth ardrethol.
Dywedodd: "Mae busnesau yn ofidus iawn. D'wi wedi cael llwyth o alwadau.
"Maen nhw yn ofidus iawn am y dyfodol o Ebrill 1af ymlaen. Mae'n edrych yn weddol sicr y bydd trethi busnes yn codi, ni ddim yn gwybod yn bendant, ond i rai, byddan nhw yn codi yn ddychrynllyd o uchel. Mae pob busnes yn gorfod gweithio i margin os nad yw nhw yn gallu cynyddu elw bydd pobl yn colli gwaith."
Mae Meleri Ennis, Rheolwr Parc Gwyliau Llwyngwair yn Nhrefdraeth yn dweud bod y cynnydd yng ngwerth ardrethol y busnes wedi creu ansicrwydd.
"Y pryder mwyaf yw'r ansicrwydd o fis Ebrill ymlaen," meddai.
"Mae cyflogau yn codi, mae cyfraniadau yswiriant cenedlaethol yn codi, costau bwyd a diod ac mae'n dod ar amser pan mae llai o arian ym mhocedi pobl yn gyffredinol. Mae’r wybodaeth i gyd yn dod yn rhy hwyr. Does dim amser i feddwl sut mae arbed arian.”
'Sefydlogrwydd'
Dr Llyr ap Gareth yw Pennaeth Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach. Dywedodd: "Mae busnesau bach wedi bod dan y lach lot dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae unrhywbeth sydd yn codi costau yn mynd i fod o bryder mawr. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn mynd ymlaen a sicrhau bod nhw yn defnyddio'r pres o'r gyllideb a chefnogi busnesau bach.
"Mae yna gryn ansicrwydd oherwydd y bwlch rhwng cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth cyn gynted â phosib fel bod pobl yn gwybod beth sydd yn dod a bod Llywodraeth Cymru yna i'w cefnogi. Mae diffyg sicrwydd yn broblem. Mae'n bwysig bod ni'n cael system sydd yn fwy sefydlog."
Y disgwyl yw y bydd trefniadau ar gyfer trethi busnes yn cael eu cadarnhau pan fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gosod ar 20 Ionawr 2026.
Fe fydd busnesau bach yn gorfod aros i weld pa gefnogaeth fydd yna i leihau trethi busnes.