'Hanfodol' i barhau i godi arian i elusen MND er mwyn rhoi gobaith i ddioddefwyr
Mae'n "hanfodol" i barhau i godi arian i elusen clefyd niwronau echddygol (motor neuron disease) er mwyn rhoi gobaith i ddioddefwyr, meddai dyn o Fôn.
Yn 2018 roedd Mike Kenyon, sy'n byw ar Ynys Môn "yn ei ddagrau" ar ôl i'w ffrind gorau Ged gael diagnosis o MND.
Mae MND yn glefyd angheuol, sy'n datblygu'n gyflym ac yn effeithio ar yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn.
Ers i'w ffrind gorau o 60 mlynedd dderbyn diagnosis saith mlynedd yn ôl, mae Mr Kenyon wedi cwblhau sawl her seiclo a rhedeg er mwyn codi arian i'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Echddygol.
Fe fydd yn cefnogi cyn chwaraewr rygbi'r undeb Kevin Sinfield yn Abertawe ddydd Mercher, wrth iddo gwblhau ei drydydd ultramarathon fel rhan o her rhedeg saith ultramarathon mewn saith diwrnod.
Ei nod yw codi £777,777 i'r elusen, arian sydd yn cynnig gobaith i ddioddefwyr y cyflwr, meddai Mike.
"Mae'r hyn mae pobl fel Kevin yn gwneud mor bwysig," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dyma'r chweched tro iddo wneud her saith ultramarathon mewn saith diwrnod, ac mae'r rhif chwech yn bwysig achos mae chwe pherson yn derbyn diagnosis o MND bob dydd.
"Mae'n bwysig bod pobl sydd yn cael diagnosis yn gallu byw mewn gobaith, gobaith bod ymchwil yn cael ei wneud a bod chwilio am wellhad.
"Hyd yn oed os nad ydym yn dod o hyd i wellhad yn y byrdymor, bod ni'n gallu dod o hyd i ryw fath o driniaeth i leihau poen y symptomau.
"Felly mae'n hanfodol bod heriau fel hyn yn digwydd i godi arian."
'Positif'
Mae 243 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd MND, a 5,000 ledled y DU.
Ers derbyn ei ddiagnosis yn 2018 mae Ged wedi bod mewn cadair olwyn, ac mae ei wraig a'i ddwy ferch yn gofalu amdano.
Er gwaethaf ei ddiagnosis, mae Mike yn dweud bod Ged yn parhau i aros yn bositif.
"Roedd rhywun wedi gofyn i mi yn ddiweddar, 'sut oedd Ged fel person?" meddai.
"Ged yw'r person mwya' hapus, positif allwch chi erioed ddychmygu.
"Hyd yn oed ar ddiwrnod llwyd ar Ynys Môn, fe fydd yn dod o hyd i rywbeth positif, ac un fel'na mae ef wedi bod erioed.
"Hyd yn oed dros y saith mlynedd diwethaf, mae wedi bod mor bositif."
Penderfynodd Mike godi arian i elusen MND yn sydyn iawn ar ôl i Ged gael diagnosis o MND.
Ers symud o'i gartref ym Manceinion roedd eisiau gwneud rhywbeth i gefnogi ei ffrind gorau, gan nad oedd yn gallu ei weld yn aml.
"Dwi'n byw 120 milltir i ffwrdd, ac mae llawer o'n ffrindiau ysgol dal yn byw yn agos i Ged, sydd yn rhoi cefnogaeth iddo a'i fynd i'r dafarn a'i drin union yr un peth â chyn iddo gael diagnosis.
"Doeddwn i methu gwneud hynny gan fy mod i'n byw mor bell i ffwrdd, er roeddwn i'n mynd i'w weld mor aml ag yr oeddwn i'n gallu.
"Felly roeddwn i'n ceisio gwneud gymaint ag oeddwn i'n gallu ar y pryd, dechrau rhedeg hanner marathons a wedyn seiclo.
"Dwi wedi gwneud sawl her i godi arian ac ymwybyddiaeth ac mae'n rhywbeth bach dwi'n gallu gwneud i helpu."
'Pob ceiniog yn cyfri'
Mae'r arian sydd yn cael ei godi gan heriau fel rhai Mike a Kevin Sinfield yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ymchwil ac i deuluoedd unigolion sydd ag MND, er mwyn lleddfu'r baich ariannol.
Mae dros £2 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn "prosiectau ymchwil allweddol" er mwyn dod o hyd i wellhad.
Hefyd mae bron i £400,000 yn cael ei roi i deuluoedd a gofalwyr trwy grantiau cymorth i gefnogi costau byw a phrynu cyfarpar arbenigol.
Yn ôl Mike Rogers, Cyfarwyddwr Ymchwil y Gymdeithas Glefyd Niwronau Echddygol, mae "pob ceiniog yn cyfri."
"Mae clywed y geiriau 'mae gennych chi MND' yn ddinistriol," meddai.
"Nid oes gennym driniaethau effeithiol i bobl sydd yn byw gydag MND, ond gyda'r arian sydd yn cael ei godi, rydym gam yn agosach.
"Mae pob diwrnod o her Kevin yn allweddol, ac mae pob milltir a phob un geiniog yn cyfri."
