'Troi Cornel': Cynnydd bach yn nhrosiant ariannol Undeb Rygbi Cymru
Mae adroddiad blynyddol Undeb Rygbi Cymru wedi dangos cynnydd bach yn nhrosiant ariannol ('turnover') yr Undeb o'i gymharu â'r llynedd.
Er y canlyniadau siomedig ar y cae yn ddiweddar, mae'r Undeb wedi disgrifio'r newyddion am eu sefyllfa ariannol fel "troi cornel".
Ddydd Sadwrn fe gafodd Cymru grasfa o 73-0 yn erbyn De Affrica yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref.
Dyma oedd colled drymaf Cymru erioed wrth chwarae gartref.
Colli wnaeth y tîm cenedlaethol yn erbyn Seland Newydd yn ystod y gyfres hefyd a'r Ariannin, a buddugoliaeth agos yn erbyn Siapan.
Mae adroddiad blynyddol yr Undeb yn dangos trosiant o £106.1m eleni tan ddiwedd Mehefin.
£102.7m oedd y ffigwr yr un adeg y llynedd.
Mae'r Undeb yn nodi eu bod wedi eithrio'r ariannu ar gyfer y Dreigiau yn 2024 a Rygbi Caerdydd ar gyfer 2025 wrth gymharu'r ddwy flynedd.
Roedd yna gynnydd o £4.4m mewn incwm gemau a digwyddiadau meddai'r Undeb.
Buddsoddi yn y gêm gymunedol
Ond roedd buddsoddiad yn y gêm broffesiynol yn llai- £45.4m o'i gymharu â £48.4m yn 2024. Maent yn dweud bod hyn o achos bod 2024 wedi bod yn flwyddyn Cwpan Rygbi'r Byd.
Mewn penderfyniad dadleuol diweddar mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu lleihau timau proffesiynol rhanbarthol o 4 i 3.
Fe arhosodd taliadau i'r gêm gymunedol ar £3.3m ond mae yna fwriad gan yr Undeb i fuddsoddi mwy yn y blynyddoedd nesaf ar y lefel yma. Maent yn dweud y bydd y swm yn cynyddu i £3.6m y flwyddyn nesaf ac y bydd yn codi i £4.4m erbyn 2030.
Mae'r ddogfen yn nodi bod 62% o'r incwm wedi dod wrth gynnal gemau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys timau hŷn Cymru a'r gweithgareddau masnachol sydd yn dod law yn llaw gyda'r timau hyn.
Mynd i'r 'cyfeiriad cywir'
Yn ogystal mae yna ostyngiad wedi bod yn y costau o £1.4m. Mae'r Undeb yn dweud bod hyn am eu bod wedi canolbwyntio ar ddod a chostau i lawr.
Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood: "Rydym wedi cyflawni gwell canlyniadau oherwydd ymdrechion parhaus i leihau ein costau ac mae gwelliant wedi ei weld yn ein perfformiad masnachol ar draws y busnes.
"Roedd y flwyddyn hon yn ddechrau cadarnhaol wrth i ni geisio troi ein sefyllfa ariannol i’r cyfeiriad cywir. Mae’r holl arian sy’n cael ei sicrhau gan yr Undeb yn cael ei fuddsoddi ar bob lefel o rygbi Cymru, ac rydym wedi gweithio’n ddi-flino er mwyn gwella ein perfformiad masnachol ymhellach."
Lleihau costau
Mae'n dweud bod y canlyniadau ariannol wedi rhoi "hyder" iddyn nhw fuddsoddi mwy yn rygbi ar lefel cymunedol ac ar y lefel elît. Y bwriad meddai yw gweld mwy yn cymryd rhan yn y gêm a cheisio gwella'r perfformiadau.
Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi adeiladu tîm arweinyddiaeth hynod o gryf ac mae ein perfformiad ariannol a masnachol wedi gwella’n sylweddol.
"Er bod llawer o waith eto i’w wneud i wireddu gwir botensial rygbi Cymru, gallwn ddweud yn wylaidd a hyderus ein bod wedi troi’r gornel yn y cyd-destun hwn.
"Rydym wedi gweithio’n galed i ddileu costau diangen a chanolbwyntio ar wireddu gwir botensial Undeb Rygbi Cymru."
Dywedodd bod rhai penderfyniadau wedi bod yn anodd ond eu bod wedi eu gwneud ar ôl ystyriaeth.
"Nid oedd y penderfyniadau hyn bob amser yn hawdd, ond fe’u cymerwyd gyda chyfrifoldeb amlwg wrth wraidd popeth. Cyfrifoldeb i’n cymunedau, ein rhanbarthau, ac i guriad calon cymunedol a diwylliannol rygbi yng Nghymru."
