Dedfryd o 13 mlynedd i ddyn o Wrecsam am ddynladdiad 'ffrind i lawer'
Mae dyn 30 oed o Wrecsam wedi ei garcharu am ddynladdiad dyn a gafodd ei ganfod yn farw gan ei ffrindiau yn ei gartref.
Roedd Thomas Iveson o Lôn Llyndir, Burton Rossett, wedi gwadu llofruddio Craig Richardson, 37 oed, yn ei dŷ yn ardal Plas Madoc, Acrefair ar 23 Chwefror eleni.
Yn gynharach y mis hwn, fe gafodd rheithgor Iveson yn euog o ddynladdiad yn dilyn achos llys naw diwrnod o hyd yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Mae Iveson bellach wedi ei ddedfrydu i naw mlynedd yn y ddalfa gyda chyfnod dan drwydded estynedig o bedair blynedd, wedi iddo ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyfer ei ddedfryd ddydd Gwener.
Fe fydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd yn y carchar, cyn ei fod yn gymwys i wneud cais am barôl.
Wrth siarad wedi’r ddedfryd, dywedodd teulu Mr Richardson eu bod yn croesawu’r newyddion.
“Roedd Craig, neu Richy fel roedd yn cael ei adnabod, yn fab, yn dad, brawd, ewythr, nai, cefnder a ffrind i lawer.
“Hoffem iddo gael ei gofio fel y dyn hwyliog, cariadus yr oedd o.
“Ni fydd ein bywydau ni, a nifer eraill, byth yr un peth eto.”
Roedd Iveson wedi mynd adref gyda Craig Richardson i’w fflat yn ystod oriau mân y bore ar 23 Chwefror.
Yn ddiweddarach y bore hwnnw, fe ddaeth ffrindiau Craig o hyd iddo wedi marw.
Roedd wedi dioddef “nifer o anafiadau trychinebus ac angheuol,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd Iveson ei arestio wedi’r digwyddiad ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd ei fod wedi gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun ar ôl i Craig ymosod arno.
Bu farw Mr Richardson wedi iddo dagu ar ei waed ei hun, meddai archwiliad post mortem.
Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio Heddlu’r Gogledd, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney bod hwn yn “achos trasig.”
Ychwanegodd na fyddai unrhyw ddedfryd yn newid yr hyn a digwyddodd i Mr Richardson, ond ei fod yn gobeithio y gallai canlyniadau’r dydd ddod â rhywfaint o gysur i’w deulu.
“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Craig wrth iddyn nhw barhau i alaru,” meddai.
