Dylanwadwraig yn ymddiheuro ar ôl dweud na ddylai Cymru fod yn wlad
Mae’r ddylanwadwraig Tennessee Thresher wedi ymddiheuro ym mhennod ddiweddaraf ei phodlediad ‘Punchin’ ar ôl i'w sylwadau am Gymru greu ton o ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.
Mewn pennod flaenorol o’i phodlediad, dywedodd y fenyw 25 oed nad oedd hi’n credu y dylai Cymru gael lle yng Nghwpan pêl-droed y Byd, ac y dylai Cymru a Lloegr gystadlu fel un tîm.
Wedi iddi dderbyn yr ymateb, mae hi bellach wedi ymddiheuro gan egluro nad oedd hi'n gwybod digon am hanes Cymru.
“Doeddwn i ddim yn gwybod fy hanes yn ddigon da pan oeddwn i'n siarad am y sefyllfa,” meddai.
“Dw i wedi dysgu llawer am hanes Cymru yn yr wythnos ddiwethaf” dywedodd ar bennod ddiweddaraf o’i phodlediad.
“Mae gen i ddilynwyr, ac mae’r hyn dw i’n ei ddweud yn cael argraff, a dw i’n gallu dylanwadu ar farn pobl eraill.
“Dwi eisiau ymddiheuro i unrhyw un o Gymru yr ydw i wedi eu siomi. Dwi’n credu yn gryf nawr bod gan Gymru bob hawl i fod yng Nghwpan y Byd a phob hawl i fod yn wlad ei hunan.”
Yn wreiddiol dywedodd Miss Thresher ei bod hi’n credu y dylai Cymru a Lloegr ymuno a’i gilydd.
“Dwi yn edrych ar Gymru ac yn meddwl bod Cymru yn rhan o Loegr” meddai yn ystod y drafodaeth sydd bellach wedi’i gwylio dros 500,000 o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn dilyn yr ymateb chwyrn, fe wnaeth dylanwadwyr eraill ymuno â’r drafodaeth gyda seren y rhaglen Traitors, Elen Wyn yn dweud “mae Cymru wedi bod yn wlad ei hun am filiynau o flynyddoedd.
“Mae dweud y dylai Cymru fod yn rhan o Loegr yn dileu diwylliant cyfan, cenedl o bobl sydd wedi ymladd yn heddychlon ac yn wleidyddol i gadw ein hunaniaeth yn fyw."