Galw am achub adeilad ysbyty hanesyddol yn Aberteifi
Galw am achub adeilad ysbyty hanesyddol yn Aberteifi
Mae hanesydd oedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i achub Castell Aberteifi wedi galw am gyfarfod cyhoeddus i drafod safle'r hen ysbyty yn y dref.
Mae Glen Johnson wedi galw am sicrwydd gan gwmni tai Wales and West y bydd rhan o'r hen ysbyty, a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash, yn cael ei chadw yn ôl y cynllun gwreiddiol pan fydd y safle yn cael ei ail ddatblygu.
Mae'n pryderu bod cyflwr yr adeilad yn gwaethygu ers i'r safle gael ei chlirio a fod yna berygl y bydd plasdy'r Priordy sydd yn rhan o'r hen ysbyty yn cael ei ddymchwel am ei fod yn dirywio.
Doedd cwmni Wales and West ddim am ymateb i'r pryderon.
Yn ôl yr hanesydd Glen Johnson mae'r safle yn un o "bwysigrwydd cenedlaethol."
"Y rhan hynaf o'r adeilad yw rhan o'r hen briordy canoloesol Aberteifi," meddai. "Wedyn, fe gafodd ei droi mewn i dŷ.
"Mae nifer o bobl enwog wedi byw yn y tŷ fel Catherine Phillips, bardd yn yr 17eg ganrif. Yr adeilad presennol yw'r adeilad cyntaf o'i fath i gael ei wneud gan y pensaer John Nash."
Roedd Nash yn bensaer amlwg tu hwnt yn y 19eg ganrif, ac roedd yn gyfrifol am adeiladau fel rhannau o Balas Buckingham, Marble Arch, Y Pafiliwn Brenhinol yn Brighton, a Phlasdy Llanerchaeron yn Aberaeron.
Yn 2021, cafodd cwmni tai Wales and West ganiatad cynllunio i godi nifer o fflatiau ar gyfer pobl hŷn ar y safle, gyda'r bwriad o gadw rhan o'r hen adeilad fel rhan o'r datblygiad.
Ers clirio'r safle rhai blynyddoedd yn ôl, does yna ddim gwaith adeiladu wedi bod yno, ac mae Glen Johnson yn bryderus am ddirywiad adeilad hanesyddol Nash.
"Mae'r gaeaf yn dod unwaith eto," meddai. "Mae'r adeilad wedi bod yn wag ers blynyddoedd. Mae'r dŵr yn dechrau dod drwy'r to. Mae nifer o'r ffenestri wedi cael eu dinistrio.
"Felly pob blwyddyn mae'r gost yn mynd lan ac mae'r adeilad gwreiddiol yn mynd llai. Mae'n amser nawr i rywbeth gael ei symud ymlaen.
"Byddwn ni yn hoffi gweld cyfarfod cyhoeddus nawr i bobl y dref i gwrdd gyda'r cwmni sydd bia'r safle a gallwn ni edrych i symud pethau mlaen, gyda'r gymuned yn gweithio gyda'r cwmni i wneud pethau yn well.
"Yn yr un modd a Chastell Aberteifi, mae hwn yn safle canol oesol pwysig ac mae'r Priordy wedi chware rhan fawr yn hanes y dref, a dwi eisiau gweld hanes a'r adeilad yn symud ymlaen gyda'r gymuned i'r dyfodol."
Yn ôl Maer Aberteifi, y Cynghorydd Olwen Davies, dyw'r cwmni ddim wedi rhoi gwybodaeth ers tro am eu cynlluniau ar gyfer y safle.
"Beth d'wi'n ar ddeall yw bod nhw'n mynd i roi cais cynllunio newydd mewn felly da ni ddim yn gwybod beth sydd yn hwnna eto, er mwyn i ni gael y drafodaeth," meddai.
"Y peth ni wedi bod yn trafod yw golwg y safle a bod e'n edrych mor wael ar ddrws sydd yn dod mewn i dref Aberteifi.
"Mae'r Eisteddfod yn dod yn lleol, sydd yn dda iawn i'r ardal ond yn anffodus bydd pobl yn dod mewn o ffordd Caerfyrddin a meddwl beth yw'r lle yma?"
Yn ôl Olwen Davies, mae hi'n cefnogi ceisio gwarchod yr hen adeilad o waith John Nash, ond mae'r sefyllfa yn anodd oherwydd nad yw'r adeilad wedi ei gofrestru.
"Yn anffodus, dyw e ddim wedi cael ei gofrestru felly does dim dyletswydd ar y cyngor sir i ddweud bod rhaid i hwnna gael ei gadw," meddai.
"Mae fe'n mynd ar ei waethaf, felly mai dymchwel fydd yr ateb maen nhw yn rhoi er mwyn gwneud y safle yn fwy cadarn."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion :
"Ar hyn o bryd, nid yw Wales and West Housing wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Sir Ceredigion ynghylch unrhyw gynlluniau diwygiedig ar gyfer y safle.
"Yn ogystal, nid oes unrhyw drafodaethau diweddar wedi digwydd yn ystod cyfarfodydd cynllunio neu ddatblygu, ac nid oes unrhyw geisiadau newydd wedi’u cyflwyno sy’n adlewyrchu’r pryderon a godwyd.
"Pe derbynir cais, caiff ei asesu yn unol â pholisi cynllunio a’r ystyriaethau perthnasol."
