Cyn-forwr o Gaerdydd yn derbyn anrhydedd filwrol fwyaf Ffrainc

Legion Fiddler ITV.

Mae cyn-aelod o'r Llynges sy'n byw yng Nghaerdydd wedi derbyn anrhydedd filwrol fwyaf Ffrainc am ei ran yn ymgyrch D-Day yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ac yntau bellach yn 100 oed, cafodd John Fiddler ei anrhydeddu gyda'r Legion D’Honneur ar fwrdd yr HMS Cambria yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Roedd Mr Fiddler yn 19 oed pan ddanfonodd danciau a milwyr i draethau Normandi ar D-Day.

Dywedodd ei fod yn "falch iawn" o dderbyn y fedal, gan ddisgrifio'r digwyddiad fel "anrhydedd fawr yn wir".

Y Legion d'Honneur yw anrhydedd uchaf Ffrainc, a sefydlwyd gan Napoleon ym 1802.

Yn 2014, penderfynodd llywodraeth Ffrainc gydnabod pob cyn-filwr D-Day gyda'r anrhydedd i ddiolch am eu hymdrechion i ryddhau Ffrainc ym 1944.

Yn ystod D-Day, gweithiodd Mr Fiddler fel prif gynorthwyydd cyflenwi ar long glanio tanciau, a'i waith oedd cludo tanciau a chyflenwadau ar draws y Sianel i draethau Normandi.

Gwasanaethodd hefyd ar HMS Holmes, oedd yn gweithredu mewn confois ag ar batrôl i warchod yn erbyn llongau tanfor yn yr Iwerydd, Sianel Lloegr a Môr y Gogledd.

Cyflwynwyd yr anrhydedd iddo gan Helene Treheux-Duchene, llysgennad Ffrainc i'r DU.

Dywedodd Ms Treheux-Duchene: “Mae'n anrhydedd fawr i mi gydnabod a mynegi diolchgarwch ein gwlad i arwr a helpodd i ryddhau Ffrainc.

“Roedd fy ngwlad yn ffodus i allu dibynnu ar gefnogaeth ei phartner agosaf, y DU, a phobl ddewr Prydain a ymladdodd dros ein gwerthoedd cyffredin, rhyddid, democratiaeth a heddwch.

“Mae'r seremoni wobrwyo hon yn gyfle i gofio'r cyfeillgarwch anorchfygol rhwng ein dwy genedl.

“Trwy'r wobr hon, mae Ffrainc eisiau anrhydeddu John Fiddler fel yr enghraifft berffaith o unigolyn sy'n haeddu ein diolchgarwch diddiwedd.”

Dywedodd Mr Fiddler: “Diolch, rydych chi i gyd yn bobl garedig iawn, diolch yn fawr iawn.”

Llun: ITV Cymru

 
 
 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.