Cynnal cyfarfod wedi llifogydd yn Hendy-gwyn ar Daf

25/11/2025

Cynnal cyfarfod wedi llifogydd yn Hendy-gwyn ar Daf

Yr olygfa yn Hendy-gwyn ar Daf ddechrau'r mis.

Ar ol cyfnod o law trwm eithriadol, dyma oedd y canlyniad.

Gyda llifogydd difrifol cafodd busnesau eu cau a bu'n rhaid i drigolion bregus o fflatiau cyngor yng Nghoedlan Dewi Sant adael eu cartrefi.

Nifer yn dal heb allu dychwelyd.

"Dechreuodd tua 2.00yb a daeth y brigad dan mas a dweud wrth bobl bod angen evacuatio.

"O'dd nifer o bobl hen a daeth un mas mewn llong!"

Roedd hi'n sefyllfa druenus i nifer o bobl a nifer dal heb 'di dychwelyd i'w tai.

Beth yw'r teimlad yn lleol?

Oes 'na ddigon yn digwydd?

"Maen nhw'n ffeindio fe'n galed a dyna pham mae'r cyfarfod heno.

"Mae cyfleoedd i gael mas 'na ond sa i'n gwybod os maen nhw 'di clywed digon amdano fe.

"Mae cyfarfod heno ac un arall ym mis Ionawr.

"Gobeithio gallwn ni symud ymlaen ac helpu pobl."

Nid dyma'r tro cyntaf mae pobl yr ardal wedi gweld llifogydd.

"Roedd hi'n wael iawn.

"Roedd hi fel yr un gwaethaf sydd wedi bod.

"Er bod llawer wedi'i wneud, neu o'dd fod i gael ei wneud mae'n dangos bod e ddim 'di gwneud.

"Mae'n profi nad yw penderfyniad y bobl ddim yn cyfri."

Dywedodd Cyngor Sir Gar eu bod wedi rhoi ystod eang o gefnogaeth i gymunedau sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yn ddiweddar.

Maent hefyd am gynnal ymchwiliad llawn i'r hyn ddigwyddodd.

Maent am adolygu systemau rhybuddion, amseru ac ymateb ac yna asesu achos y llifogydd a mesurau i atal risg yn y dyfodol.

Bydd nifer yn ysu i gael dychwelyd i'w cartrefiyn enwedig a chyfnod y Nadolig yn agosau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.