Bachgen 17 oed wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad
Mae bachgen 17 oed wedi cael anafiadau allai beryglu ei fywyd ar ôl gwrthdrawiad rhwng beic modur a char.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Ffordd Kelserton yng Nghei Connah, Sir y Fflint am 16:45 ddydd Llun.
Cafodd bachgen 17 oed a oedd yn gyrru'r beic modur ei gludo i'r ysbyty..
Mae'r Ditectif Arolygydd Tim Evans o Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion.
“Rwy’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad a sydd heb siarad â swyddogion eto i gysylltu," meddai.
“Mae diddordeb gennym i glywed gan unrhyw un a oedd ger Coleg Cambria tua 16:45 a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â lluniau cylch cyfyng neu gamera dangosfwrdd."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod C182456.
