Cartrefi wedi'u gwagio ar ôl i gar wrthdaro ag is-orsaf nwy
Mae trigolion o fewn 100 metr wedi cael gorchymyn i adael eu tai ar ôl i gar fwrw is-orsaf nwy yn ne-ddwyrain Lloegr fore ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Pagham, yng Ngorllewin Sussex, meddai’r gwasanaeth tân. Maent yn dweud bod tri o'u criwiau tân yn y fan a’r lle.
Mae trigolion chwe fflat ac un cartref wedi eu trosglwyddo i neuadd eglwys ar ôl y gwrthdrawiad cyn 05.00.
Dywedodd gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex: “Ar hyn o bryd rydym yn delio â digwyddiad traffig - mae car wedi gwrthdaro ag is-orsaf nwy yn Pagham Road.
“Rydym wedi gofyn i bobol adael o fewn 100 metr fel rhagofal diogelwch. Mae gennym dri chriw yn bresennol. Osgowch yr ardal i ganiatáu i ddiffoddwyr tân weithio’n ddiogel.
“Mae pobl yn cael eu trosglwyddo i Neuadd Eglwys Pagham. Cadwch draw o’r ardal os gwelwch yn dda.”
