Abertawe i benodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr newydd
Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Abertawe benodi Vitor Matos o Bortiwgal yn briff hyfforddwr newydd.
Mae Matos, sy’n 37 oed, wedi bod yn brif hyfforddwr ar glwb Marítimo sydd yn ail haen Portiwgal.
Fe ddaeth Matos, sydd yn gyn-hyfforddwr datblygu elitaidd i glwb Lerpwl, i'r amlwg fel prif darged Abertawe ar ôl iddyn nhw fethu yn eu hymgais am Kim Hellberg, sydd ar fin ymuno â Middlesbrough.
Fe gymrodd Matos yr awenau ym Marítimo, ym mis Mehefin.
Ond ar ôl methu â phenodi Hellberg, mae Abertawe wedi penderfynu mai Matos yw'r ymgeisydd gorau i olynu Alan Sheehan, a gafodd ei ddiswyddo'r wythnos diwethaf.
Roedd disgwyl i Matos fod yn Ashton Gate ddydd Sadwrn i wylio gêm yr Elyrch yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Marítimo fod Abertawe wedi talu €1 miliwn o iawndal i’r clwb.
Dywedodd y clwb: "Bydd yr hyfforddwr Vitor Matos yn gadael CS Marítimo i gymryd yr awenau gyda Dinas Abertawe, ar ôl i'r clwb weithredu cymal rhyddhau gwerth €1 miliwn (£881,900) ddydd Gwener.
"Mae'r clwb yn mynegi ei ddiolchgarwch diffuant am y proffesiynoldeb, yr ymroddiad a'r cyfraniad a wnaeth yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu Marítimo.
"Rydym yn dymuno'r llwyddiant personol a phroffesiynol mwyaf i Vitor Matos yn ei ddyfodol."
Gweithiodd Matos, sy'n dod o Bortiwgal, yn nhîm ieuenctid Porto cyn ymuno â staff Lerpwl Jurgen Klopp yn 2019.
Treuliodd bum mlynedd yn Anfield cyn gadael yr un pryd â Klopp a'r rheolwr cynorthwyol Pep Lijnders yn 2024.
Yna ymunodd Matos â Red Bull Salzburg fel rhif dau i Lijnders, ond cafodd y ddau eu rhyddhau o'u dyletswyddau gan y clwb o Awstria ar ôl dim ond chwe mis wrth y llyw.
Llun: CPD Marítimo