Degau o ysgolion yn parhau i fod ar gau yn y de orllewin
Mae degau o ysgolion yn parhau i fod ar gau yn y de orllewin ddydd Gwener, yn dilyn y tywydd gaeafol yn yr ardal dros y diwrnodiau diwethaf.
Roedd cryn darfu ar wasanaethau ac addysg disgyblion a myfyrwyr yn Sir Benfro ddydd Iau, ac mae problemau'n parhau ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau o Gymru.
Mae'r rhybudd wedi bod mewn grym ers 00:00 ac fe fydd yn parhau tan 11:00 fore Gwener.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
Fe allai palmentydd, llwybrau cerdded a llwybrau seiclo fod yn llithrig - ac mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai pobl dioddef anafiadau os nad ydynt yn ofalus.
Yn ôl Cyngor Sir Benfro, mae'r ysgolion canlynol i gyd ar gau ddydd Gwener:
- Ysgol WR Yr Eglwys yng Nghymru Cilgerran
- WR Ysgol Cosheston
- Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton - Hwlffordd
- Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd
- Ysgol Gynradd Llandyfái
- Canolfan Adnoddau Dysgu - Neyland
- Ysgol Mair Wiwlan - Hwlffordd
- Ysgol Gynradd Gymunedol Priordy Cil-maen
- Ysgol WR yr Eglwys yn Nghymru Hwlffordd
- Ysgol Gymunedol Neyland
- Ysgol Portfield - Hwlffordd
- Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast - Hwlffordd
- Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-mael
- Ysgol Gynradd Gymunedol Sageston
- Ysgol WG Yr Eglwys yng Nghymru St Aeddan Cas-wis
- Ysgol Gynradd Gatholig St Ffransis - Aberdaugleddau
- Ysgol Gynradd Gatholig St Teilo Dinbych-y-pysgod
- Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside - Cilgeti
- Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod
- Ysgol Bro Gwaun - uwchradd - Abergwaun
- Ysgol Bro Ingli - Trefdraeth
- Ysgol Caer Elen
- Ysgol Clydau - Tegryn
- Ysgol Ger y Llan - Treletert
- Ysgol Gymunedol Brynconin - Llandysilio
- Ysgol Gymunedol Maenclochog
- Ysgol Gymunedol Gynradd Eglwyswrw
- Ysgol Hafan y Môr
- Ysgol Llanychllwydog Cwm Gwaun
- Ysgol Bro Preseli
- Ysgol Bro Penfro
Mae sawl ysgol ar gau yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener hefyd. Yr ysgolion hyn yw:
- Ysgol Gynradd Beca, Clunderwen, Ysgol Bro Brynach, Hendygwyn, Ysgol Uwchradd Dyffryn Taf, Hendygwyn, Ysgol Gynradd Talacharn, Ysgol Maes y Morfa, Llanelli ac Ysgol Pwll, Llanelli.