Cyhuddo dyn wedi ymosodiad mewn clwb nos

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo yn dilyn ymosodiad difrifol mewn clwb nos yn Llandudno yn oriau mân y bore dydd Sadwrn.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod Alex Jones, 19 oed o Dreffynnon, Sir y Fflint, wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, ac o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno yn ddiweddarach.
Daw hyn ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i ddigwyddiad yn Club One47 ar Stryd Mostyn am oddeutu 03:00 fore dydd Sadwrn, gyda dyn wedi ei gludo i'r ysbyty, yn ôl North Wales Live.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod Z122791.
Darllenwch y stori'n llawn yma.