Yr Alban wedi cyrraedd Cwpan y Byd

Yr Alban yn dathlu cyrraedd Cwpan y Byd

Mae'r Alban wedi cyrraedd Cwpan y Byd y dynion am y tro cyntaf ers 28 mlynedd.

Fe aethon nhw ar y blaen ddwywaith yn ystod y 90 munud yn erbyn Denmarc.

Ond fe gollon nhw'r fantais ddwywaith hefyd.

Yn ystod yr amser ychwanegol am anafiadau fe sgorion nhw ddwy gol wych i sicrhau'r fuddugoliaeth. Roedd un o'r goliau o hanner ei hun.

Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd ers 1998 pan oedd y gystadleuaeth yn Ffrainc. 

Mae Cwpan y Byd y dynion eleni yn digwydd haf nesaf yn wledydd Mecsico, Canada ac America.

Roedd yr Alban yn yr un grŵp cymhwyso a Groeg, Belarws a Denmarc.

Cyn y gêm fe ddywedodd y prif hyfforddwr, Steve Clarke wrth ei dîm i chwarae "gan ragweld llwyddiant, nid gan ofni methiant."

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu mai Clarke yw'r prif hyfforddwr cyntaf i arwain ei dîm i dri prif dwrnamaint. 
 

Llun: Reuters 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.