Llywodraeth y DU yn bwriadu gwahardd ail werthu tocynnau am elw
Bydd ail werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau byw am elw yn cael ei wahardd gan Lywodraeth y DU.
Y disgwyl yw y bydd gweinidogion yn cyhoeddi cynlluniau i daclo towtiaid a gwefannau sydd yn ailwerthu tocynnau am lawer mwy na'r pris gwreiddiol.
Roedd lleihau tocynnau towtiaid yn rhan o faniffesto Llafur wrth i bobl gwyno am brisiau uchel iawn ar docynnau ail werthu ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth.
Daw'r penderfyniad wedi i ddwsinau o artistiaid yn cynnwys Coldplay, Dua Lipa a Sam Fender annog y llywodraeth i weithredu ar y mater.
Roedd ymgynghoriad yn awgrymu rhoi cap o 30% ar y cynnydd y byddai modd codi ar bris y tocyn gwreiddiol.
Ond mae adroddiadau yn The Guardian a'r Financial Times yn dweud y bydd gweinidogion yn gosod y cyfyngiad fel y pris gwreiddiol. Fe allai yna fod ffioedd ychwanegol ar ben pris gwreiddiol y tocyn.
Gwrthod rhoi sylw mae Llywodraeth y DU wedi gwneud ar yr adroddiadau hyn.
Fe allai'r newyddion gael ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Llythyr agored
Mae llythyr agored wedi cael ei arwyddo gan rhai o enwau mawr y byd cerddoriaeth.
Mae mwy na 40 o gerddorion wedi eu harwyddo.
Yn y llythyr maent yn dweud y dylai'r llywodraeth "ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfyngu prisiau yn araith nesaf y Brenin". Byddai hyn yn "adfer ffydd yn y system tocynnau" ac yn helpu i wneud hi yn haws i "bawb gael mynediad at y celfyddydau."
Ymhlith y rhai eraill sydd wedi rhoi eu henw ar y llythyr y mae Which, Cymdeithas Cefnogwyr Pêl Droed a grwpiau sydd yn cynrychioli'r diwydiant theatr a cherddoriaeth.
Mae gwefannau ailwerthu fel Viagogo a Stubhub wedi dweud yn y gorffennol y byddai cyfyngiadau ar brisiau yn gallu gorfodi cwsmeriaid i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a gwefannau sydd heb eu rheoleiddio. Byddai hynny medden nhw yn golygu bod yna fwy o siawns o dwyll.
Llun: Yui Mok/PA Wire
