Dyn ifanc yn ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch 17 oed
Mae dyn ifanc wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch 17 oed ger y Coed Duon, Sir Caerffili.
Fe gafodd Cameron Cheng, 18, ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Lainie Williams.
Mae Mr Cheng hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio Rhian Stephens, 38 oed, ac o gael llafn yn ei feddiant.
Siaradodd y diffynydd i gadarnhau ei enw, ei ddyddiau geni a’i gyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Dywedodd yr ynad Christine Farrington: “Fel y clywoch chi mae’r achos yma mor ddifrifol mae’n rhaid ei yrru yn ddiofyn i Lys y Goron.
“Fe fydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth. Fe fyddwch chi’n cael eich cadw yn y ddalfa nes hynny.”
Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiad honedig yn yn Wheatley Place, Cefn Fforest ar 13 Tachwedd ar ol i’r heddlu gael gwybod bod dau berson wedi eu hanafu yno.
