Rygbi: Datgelu gwrthwynebwyr Cymru mewn cystadleuaeth fyd-eang newydd
Mae gemau tîm rygbi dynion Cymru mewn cystadleuaeth fyd-eang newydd sydd yn cychwyn y flwyddyn nesaf wedi eu cadarnhau.
Fe fydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2026, gyda thimau y Chwe Gwlad yn hemisffer y gogledd yn herio chwe thîm sy’n cystadlu yn hemisffer y dde; De Affrica, Yr Ariannin, Seland Newydd, Awstralia, Japan a Ffiji.
Fe fydd pob tîm yn chwarae chwe gêm; tair yn ystod yr Haf a thair yn ystod yr Hydref, cyn un gêm ychwanegol yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn Llundain ar ddiwedd tymor yr Hydref.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1990347004384584186?s=20
Fe fydd tîm Steve Tandy yn cychwyn y gystadleuaeth gyda thaith i Ffiji ar 4 Gorffennaf.
Wythnos yn ddiweddarach ar 11 Gorffennaf, fe fydd y Cymry oddi cartref yn erbyn Yr Ariannin, cyn cloi gemau’r haf gyda gêm oddi gartref yn erbyn pencampwyr y byd, De Affrica ar 18 Gorffennaf.
Yna yn ystod Hydref 2026, fe fydd Cymru yn croesawu Japan, Seland Newydd ac Awstralia i Gaerdydd.
Fe fydd y rowndiau terfynol yn 2026 yn cael eu cynnal yn Twickenham ar benwythnos 27-29 Tachwedd.
Fe fydd Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd.