Pump o bobl ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Iwerddon
Mae pump o bobl ifanc yn eu hugeiniau wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Louth, Gweriniaeth Iwerddon, nos Sadwrn
Yn ôl yr heddlu, mae tri o bobl eraill wedi eu hanafu.
Roedd y pump a fu farw yn yr un car.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i'r hyn ddigwyddodd ar ffordd yr L3168 yn Gibstown, ar gyrion Dundalk.
Wrth siarad ddydd Sul, ger safle'r gwrthdrawiad, dywedodd yr Uwcharolygydd Charlie Armstrong: “Neithiwr, toc ar ôl 9 yr hwyr, roedd gwrthdrawiad ffordd difrifol rhwng dau gerbyd, sef Volkswagen Golf a Toyota Landcruiser.
“Roedd y pump a oedd yn y Volkswagen Golf, wedi marw yn y fan a'r lle, sef tri dyn a dwy ddynes, bob un yn eu hugeiniau cynnar.”
Yn ôl Mr Armstrong, cafodd dyn yn ei ugeiniau yn y Volkswagen a dyn a dynes yn y cerbyd arall eu cludo i ysbyty Our Lady of Lourdes yn Drogheda.
Mae swyddogion arbenigol wedi eu penodi ar gyfer pob un o'r teuluoedd, er mwyn eu cynorthwyo.
Ychwanegodd Mr Armstrong: “Rydw i eisiau anfon fy nghydymdeimlad dwysaf, a chydymdeimlad fy nghyd swyddogion at deuluoedd y pum oedolyn ifanc sydd wedi colli eu bywydau yn y gwrthdrawiad hwn.”
Dywedodd y bydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal.
“Roedd yr olygfa o'n blaenau yn anodd iawn, mewn tywydd heriol. Mae'r drychineb hon, gyda cholli pum oedolyn ifanc, yn mynd i gael effaith ddofn ar deuluoedd a'r cymunedau yn lleol yn Carrickmacross, Dromconrath ac yn Yr Alban,” meddai.