Newyddion S4C

Johnson am 'erfyn' ar Biden i gadw byddin yr UDA yn Afghanistan

Sky News 23/08/2021
Kabul, Afghanistan

Mae Boris Johnson am "erfyn yn bersonol" ar Joe Biden i ymestyn y dyddiad y bydd byddin yr UDA yn gadael Afghanistan er mwyn caniatáu mwy o bobl i ffoi rhag y Taliban.

Bydd y Prif Weinidog yn cwrdd ag arweinwyr mwyaf pwerus y byd yn uwchgynhadledd brys y G7 ddydd Mawrth, gyda disgwyl iddo erfyn ar yr Arlywydd i gadw ei fyddin yn y wlad tu hwnt i 31 Awst er mwyn mynd i'r afael â'r anrhefn ym maes awyr Kabul.

Mae Mr Biden wedi awgrymu y gallai fod yn barod i ymestyn y dyddiad, gan ddweud bod trafodaethau eisoes ar y gweill, a'i fod am ddweud wrth y G7: "Cawn weld beth allwn ei wneud."

Yn y cyfamser, mae Sky News wedi cwrdd ag aelod o'r Taliban i drafod eu camau nesaf, gan rybuddio y byddai "canlyniadau" os bydd yr UDA a'r DU yn aros yn Afghanistan yn hwyrach na 31 Awst.

Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban, Dr Suhail Shaheen: "Mae'n llinell goch. Cyhoeddodd yr Arlywydd Biden y byddent yn tynnu eu holl luoedd milwrol yn ôl ar 31 Awst. Felly os ydyn nhw'n ei ymestyn mae hynny'n golygu eu bod nhw'n ymestyn galwedigaeth tra nad oes angen hynny. "

Ychwanegodd: "Pe byddai'r UDA neu'r DU yn ceisio am amser ychwanegol i barhau gyda'r ymdrechion ffoi - yr ateb yw na. Neu fe fydd canlyniadau."

Mae miloedd o bobl yn parhau i fod wedi casglu ger maes awyr Kabul yn y gobaith o ffoi'r wlad.

Fe gadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod saith o bobl wedi marw ym maes awyr Kabul dros y penwythnos, gyda 20 o bobl bellach wedi marw yno dros yr wythnos ddiwethaf.

Nid oes "dyddiad penodol" wedi ei gadarnhau gan swyddogion llywodraeth y DU ar gyfer pryd y bydd byddin y DU yn gadael Afghanistan, yn ôl BBC News. Serch hynny, mae pryderon na all lluoedd eraill ddiogelu'r maes awyr heb gymorth yr UDA.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.