Y Brenin Charles yn agor depo rheilffordd newydd yn y Rhondda ar ei benblwydd

Y Brenin Charles yn agor depo Ffynnon Taf

Fe wnaeth y Brenin Charles ddathlu ei benblwydd yn 77 oed drwy agor depo rheilffordd newydd yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd y Brenin Charles ym mhentref Ffynnon Taf i agor Depo Metro De Cymru yn swyddogol fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi ei benblwydd.

Ar ôl cyfarfod ag aelodau o staff y depo brynhawn Gwener, cafodd y Brenin Charles daith yng ngherbyd y gyrrwr ar un o'r trenau tram newydd.

Mae Depo Metro De Cymru yn gartref i fflyd o 36 o drenau tram newydd a fydd yn gwasanaethu'r Cymoedd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod y depo £100 miliwn wedi creu dros 400 o swyddi.

Bydd trenau tram cyntaf y gwasanaeth yn cael eu cyflwyno'r flwyddyn nesaf, meddai.

Image
Y Brenin Charles ar Metro De Cymru
Y Brenin Charles yng ngherbyd y gyrrwr ar ei benblwydd yn 77 oed

Mae cynllun Metro De Cymru yn cynnwys trydaneiddio dros 170km o gledrau rheilffordd.

Fel rhan o'r cynllun cafodd trenau trydan eu cyflwyno ar reilffyrdd y Cymoedd am y tro cyntaf y llynedd.

'Carreg filltir bwysig'

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: "Pleser o’r mwyaf oedd cael croesawu Ei Fawrhydi, y Brenin Charles i Ffynnon Taf heddiw er mwyn iddo gael ymweld â’n Depo Metro yn ne Cymru.

"Gyda rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, trenau newydd sbon a depo o’r radd flaenaf, mae Metro De Cymru yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn y rhanbarth ac, yn bwysicaf oll, yn cysylltu pobl a chymunedau â chyfleoedd."

Ychwanegodd: "Rydym wrthi'n cwblhau'r camau olaf o drydaneiddio 170 km o gledrau ac eisoes wedi cyflwyno ein trenau trydan cyntaf ar y rhwydwaith, ynghyd â thocynnau talu wrth fynd i’n cwsmeriaid.

"Rydym yn gyffrous i ddechrau cyflwyno’r trenau tram newydd sbon y flwyddyn nesaf, wrth i ni barhau i drawsnewid teithio a denu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y bydd y depo yn "gwneud gwahaniaeth mawr" i fywydau pobl.

"Mae agor Depo Ffynnon Taf yn nodi carreg filltir bwysig yn ein buddsoddiad o £1bn i uwchraddio llinellau craidd y Cymoedd," meddai.

"Mae’n rhan o’r seilwaith hanfodol y tu ôl i’r llenni, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yn eu bywydau bob dydd, boed hynny wrth ei gwneud hi’n haws mynd i’r gwaith neu hyfforddiant, neu archwilio’r wlad ar ein rhwydwaith rheilffyrdd gwych."

Yn gynharach, roedd y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla wedi bod yng Nghastell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful i ddathlu ei benblwydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.