Cymru'n cofnodi pum marwolaeth Covid-19 newydd
Mae pump yn rhagor o bobl wedi marw yn sgil Covid-19 yng Nghymru.
Golygai hyn bod 5,656 o bobl bellach wedi marw o'r haint yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 1,626 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau drwy'r wlad.
Yn Abertawe mae'r nifer uchaf o achosion newydd wedi eu cadarnhau, gyda 208 achos, yna Rhondda Cynon Taf, gyda 139 achos.
Yn y gogledd, cafodd y nifer uchaf o achosion newydd eu cofnodi yn Wrecsam, gyda 69 achos.
Dros gyfnod o saith diwrnod, roedd y gyfradd o'r haint fesul 100,000 o'r boblogaeth ar ei huchaf drwy Gymru yn Sir Ddinbych, gyda 402.3.
Serch hynny, mae'r gyfradd ledled Cymru yn 245.7.