Blaenau Ffestiniog: Arestio dyn yn ei 80au ar amheuaeth o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant
Mae dyn oedrannus o Flaenau Ffestiniog yng Ngwynedd wedi ei arestio yn dilyn honiadau yn ymwneud â throseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Cafodd y dyn o Flaenau Ffestiniog, sydd yn ei 80au, ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o nifer o droseddau o ymosod yn anweddus, yn ôl Heddlu’r Gogledd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Christopher Bell nad yw hi “byth yn rhy hwyr” i ddioddefwyr gysylltu gyda’r heddlu am droseddau yn eu herbyn.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol i gysylltu waeth pryd y digwyddodd hynny," meddai.
“Rydym yn parhau wedi ein hymrwymo i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, ac rwy’n eich sicrhau y byddwn ni yn gwrando arnoch, ac yn eich cefnogi gyda chymorth ein swyddogion arbenigol.”
Roedd hefyd yn annog pobl i beidio â “dyfalu na chwaith enwi unrhyw un” sydd yn gysylltiedig â’r achos gan fod ymchwiliadau’n parhau.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa yn Llanelwy, Sir Ddinbych ar hyn o bryd.
