Canser y prostad: ‘Angen gwella mynediad i brofion gwaed ar gyfer yr afiechyd’
Mae dyn o Gonwy sy'n codi arian ar gyfer ymchwil i ganser y prostad yn dweud y dylid cynnig prawf gwaed ar gyfer yr afiechyd ar gyfer holl ddynion dros 50 oed.
Yn ôl Dav Jones, 61, roedd prawf gwaed Prostate-Specific Antigen (PSA) yn hollbwysig i’w ddiagnosis ym mis Hydref 2024 gan nad oedd ei feddyg teulu wedi gallu gweld unrhyw symptomau amlwg pan aeth atyn nhw’n gyntaf.
Dyw prawf gwaed PSA ddim yn cael ei gynnig yn rheolaidd drwy’r GIG, ond fe all meddygon teulu gynnig y prawf i ddynion os ydynt yn amau bod ganddynt ganser.
Ar ddiwedd 2023, fe ddechreuodd Dav, sy’n gyn-weithiwr yn y GIG, amau bod rhywbeth o’i le gyda’i brostad ac fe aeth at y meddyg am brofion cychwynnol ym mis Ebrill 2024.
“Na’th y meddyg ddim ffeindio unrhyw chwydd yn ystod yr archwiliad, ond o ni’n bendant 'mod i eisiau profion pellach," meddai.
Ar ôl gwthio am hynny, fe wnaeth Dav dderbyn y prawf PSA, sy’n gwirio faint o fath penodol o brotein sydd yn y gwaed.
Daeth ei ganlyniadau yn nôl ym mis Mai 2024 gyda risg uchel o ganser, ac fe gafodd brofion pellach drwy biopsi a sgan CT i weld os oedd y canser wedi ymledu.
“Yn lwcus iawn, doedd y canser heb ymledu i fy esgyrn. Ac oni bai fyd mod wedi gwthio am brawf, efallai y galle e fod wedi," meddai.
“Os nad o'n i wedi derbyn prawf PSA, pa mor hir bydde hi 'di mynd cyn i rywun wrando? Fyswn i nawr yn edrych ar death sentence?"
Yn dilyn ei brofiad e, mae Dav yn credu y dylid cynnig profion gwaed i bob dyn dros 50 er mwyn ceisio dal yr afiechyd cyn gynted â phosibl.
“Bydde llawer o ddynion fel fi ga’th w’bod nad oedd ganddynt chwydd yn hapus i gerdded i ffwrdd yn meddwl nad oes ganddyn nhw ganser, ond yn lwcus nes i wthio," meddai.
Canser y prostad a’r prawf PSA
Ar hyn o bryd, dyw prawf PSA ddim yn cael ei gynnig yn rheolaidd i gleifion, ond mae meddygon teulu yn gallu ei gynnig i’r rhai maent yn amau sydd â chanser y prostad. Mae dynion dros 50 oed hefyd yn gallu gofyn am y prawf, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau.
Ym mis Ebrill 2024, fe wnaeth elusen Prostad Cymru lansio cynllun peilot oedd yn cynnig y prawf i dros 3,000 o ddynion ar draws y wlad.
Wrth lansio’r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr Prostad Cymru, Tina Tew eu bod nhw’n clywed yn aml am ddynion yn wynebu heriau i weld y meddyg teulu, ac yn cael eu gwrthod am brawf mewn rhai achosion.
“Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym ni os bysen ni’n gwneud hi’n haws i ddynion gael eu profi, byddai mwy o ddynion yn croesawu prawf," meddai Tina Tew.
Canser y Prostad yn y DU a’r GIG
Nid oes yna raglen sgrinio ar gyfer canser y prostad ar gael drwy’r GIG ar hyn o bryd, felly nid yw’n debygol y byddai dynion yn cael eu gwahodd i gymryd prawf PSA.
Mae’r prawf wedi bod yn bwnc dadleuol sydd wedi gwahaniaethu barn. Er ei fod yn gallu cynnig ffordd o ganfod y canser yn gynnar, mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio ei fod yn annibynadwy, ac yn gallu arwain at ddynion iach yn derbyn diagnosis a thriniaeth bellach heb fod angen.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Nid prawf PSA yw'r ymyriad cywir bob amser i ddynion heb symptomau canser y prostad.
“Mae canllawiau cenedlaethol ar waith i gefnogi meddygon teulu i gael trafodaethau â dynion heb symptomau sy’n poeni am eu risg o ganser y prostad.”
Erbyn hyn mae Dav yn derbyn profion bob chwe mis a therapi hormonau i sichrau nad yw’r canser yn ymledu ymhellach, ac yn gobeithio bod yn glir o ganser erbyn 2027.
Trwy gydol fis Tachwedd, bydd yn cymryd rhan mewn taith gerdded genedlaethol sydd wedi’i threfnu gan Ymchwil Canser y Prostad. Ei nod yw cerdded dwy filltir o amgylch ei ardal leol pob diwrnod a chodi arian i’r elusen.
“Mae codi arian mor bwysig i ddyfodol ymchwil canser y prostad, er mwyn dod o hyd i driniaeth fwy effeithiol a dod o hyd i wellhad,” dywedodd Dav.
Gobaith y trefnwyr yw datblygu maes ymchwil gan sicrhau dyfodol lle nad yw canser y prostad yn bygwth bywydau.