Undeb amaeth yn croesawu galwad gan ASau Cymreig i oedi newidiadau i’r dreth etifeddiant

Aled Jones

Mae undeb amaeth wedi croesawu galwad gan bwyllgor o Aelodau Seneddol i oedi newidiadau i’r dreth etifeddiant nes bod yr effaith ar Gymru yn benodol wedi’i hystyried.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, ei fod yn croesawu adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan a gyhoeddwyd ddydd Mercher.

Mae’r pwyllgor trawsbleidiol eisiau gweld asesiad effaith penodol i Gymru cyn gweithredu’r newidiadau, a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2026.

Yn eu hadroddiad, dywedodd y pwyllgor nad oedd data Llywodraeth y DU “yn caniatáu ar gyfer dadansoddiad rhanbarthol”, gan ychwanegu fod hynny “wedi creu gwactod sydd wedi’i lenwi ag amcangyfrifon a dyfalu”.

“Mae hyn wedi achosi ofn ac ansicrwydd i’r rheini sy’n ffermio yng Nghymru,” meddai’r adroddiad.

“Rydym yn siomedig bod y Llywodraeth wedi parhau â’i dull dibryder o fesur effaith y newidiadau treth hyn yng Nghymru, er gwaethaf hyd a lled yr anniddigrwydd cyhoeddus.”

Galwodd y pwyllgor ar y llywodraeth i ohirio gweithredu'r newidiadau “hyd nes y bydd y Llywodraeth wedi cyhoeddi asesiad effaith sy’n benodol i Gymru, a hyd nes y bydd y Pwyllgor Materion Cymreig wedi cael cyfle i graffu arno.”

Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae ffermio yng Nghymru yn wahanol i ffermio yn Lloegr, ac mae’n rhaid adlewyrchu’r gwahaniaethau hyn mewn polisïau ar lefel y DU.”

'Torcalonnus'

Wrth ymateb, dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, fod yr adroddiad yn “galonogol”.

Dywedodd fod diffyg manylder yn ffigyrau’r Trysorlys “wedi’i waethygu gan y diffyg data o Gymru yn benodol”.

“Dros y 12 mis diwethaf, mae rhai o’r hanesion mwyaf torcalonnus sydd wedi cael eu rhannu gyda mi yn ymwneud â ffermwyr oedrannus neu’r rhai sydd â salwch terfynol.

“Mae llawer o’r ffermwyr hyn wedi cynllunio ar y sail na fyddai’n rhaid talu treth etifeddiant, ond nawr maen nhw mewn sefyllfa lle maen nhw’n cael eu heffeithio’n fawr gan y polisi hwn, gan nad oes ganddynt yr amser ar ôl i wneud trefniadau gwahanol.”

'Hanfodol'

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman bod yr adroddiad yn anfon neges glir “na all ffermio yng Nghymru barhau i gael ei drin fel ôl-ystyriaeth”. 

“Mae’r Pwyllgor wedi cydnabod natur unigryw amaethyddiaeth Cymru - ei raddfa, ei chyfraniad at ein heconomi, a’i rôl hanfodol wrth gynnal cymunedau gwledig,” meddai.

“Serch hynny, yn rhy aml o lawer, mae polisïau Llywodraeth y DU yn methu â chydnabod ac ystyried yr amgylchiadau penodol hynny.

“Mae’r newidiadau arfaethedig i’r dreth etifeddiaeth a’r broses o ‘Barneteiddio’ cyllid amaethyddol yn bygwth tanseilio cynaliadwyedd hirdymor ffermydd teuluol Cymru - ar adeg pan fo’r diwydiant eisoes yn wynebu storm berffaith o gostau cynyddol, marchnadoedd anwadal ac ansicrwydd parhaus am y dyfodol.”

'Y peth cywir'

Mae gweinidogion y Trysorlys wedi dweud eu bod wedi “gwneud y penderfyniad iawn” drwy gyflwyno’r newidiadau.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Trysorlys, Dan Tomlinson, ei fod yn cydnabod fod y dreth yn “anodd”.

“Ond rydyn ni’n credu mai dyma’r newid cywir i’w wneud oherwydd ei fod yn ffordd deg o godi refeniw sy’n helpu i gyfrannu at adfer cyllid cyhoeddus,” meddai.

Disgwylir i’r Canghellor, Rachel Reeves, ddatgelu ei chyllideb nesaf ar 26 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.