Arestio dyn wedi marwolaeth dyn arall mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon

12/11/2025
Damwain ffordd osgoi Caernarfon

Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi i ddyn 64 oed farw ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Caernarfon yng Ngwynedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ffordd yr A487 yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng fan a cherddwr ger Bontnewydd tua 20:30 nos Sul.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle. 

Mae perthynas agosaf y dyn, a'r crwner, wedi cael gwybod.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio bellach wedi cael ei ryddhau tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal. 

Dywedodd y Sarjant Katie Davies o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn ar yr amser anodd hwn.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau camera dangosfwrdd, i gysylltu gyda'r heddlu.

"Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A487 cyn 20:30 nos Sul a welodd ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd osgoi i gysylltu â ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.