Enillydd gwobr newydd Syr Bryn Terfel yn ddiolchgar am gyfle i 'rannu ei angerdd'
Mae dyn sydd wedi ennill cystadleuaeth Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel wedi dweud bod y wobr yn gyfle iddo "rannu ei angerdd dros ganu".
David Karapetian oedd yn fuddugol ac ef yw'r person cyntaf i ennill y gystadleuaeth newydd.
Dywedodd Mr Karapetian, sydd yn dod o Armenia, bod hwn wedi bod yn gyfle iddo "gadw ein diwylliant a’n hiaith yn fyw trwy gân".
Mae'n derbyn gwobr ariannol o £15,000.
Mae'r gystadleuaeth newydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd mewn partneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Y bwriad yw hyrwyddo lleisiau newydd talentog ac arddangos mynegiant pwerus trwy wahanol ieithoedd, gan gynnwys caneuon Cymraeg.
Roedd yn rhaid i'r israddedigion berfformio rhaglen o dri darn yr un oedd yn cynnwys cân yn dathlu eu hiaith a’u diwylliant eu hunain, a chân osod Gymraeg, ‘Pan ddaw’r nos’ gan Meirion Williams.
Roedd y naw yn dod o brifysgolion cerdd ar draws y DU.
'Gwireddu breuddwyd'
Dewisiodd David Karapetian ganu'r gân Arminaidd, Կռունկ, (Y Crëyr) gan Komitas.
"Mae ennill cystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn fy ngwneud yn hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu fy angerdd dros ganu. Roedd gweithio gyda Syr Bryn yn gwireddu breuddwyd i mi; roedd profi ei ddoethineb a’i haelioni fel perfformiwr yn wirioneddol swreal, ac rydw i mor hapus i fod wedi bod yn rhan o rywbeth mor arbennig," meddai.
Ychwanegodd bod canu yn ei iaith ei hun wedi bod yn brofiad 'arbennig'.
"Mae cân Armenaidd yn rhan o fy niwylliant nas clywir yn aml yn y byd perfformio ehangach, felly roedd cael y cyfle i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd newydd yn rhywbeth arwyddocaol iawn.
"Roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol falch o gynrychioli rhan o fy nhreftadaeth trwy gerddoriaeth ac roedd gwybod bod pobl sy’n gysylltiedig â’r geiriau a’r alawon a drosglwyddwyd i lawr trwy genedlaethau yn gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy gwerth chweil.
"A minnau’n dod o wlad fach gyda hanes mor gyfoethog, mae’n golygu llawer i helpu i gadw ein diwylliant a’n hiaith yn fyw trwy gân."
Mae Syr Bryn Terfel wedi dweud ei fod yn falch o'r gystadleuaeth.
"Rwy’n teimlo’n falch dros ben o gystadleuaeth gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel ac mae’n anrhydedd bod wedi byw pob eiliad o’r pedwar diwrnod. Diolch i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am ein partneriaeth ac i bawb a oedd yn rhan o greu profiad mor wych.
"Gweithiodd y rheini a gyrhaeddodd y gystadleuaeth derfynol mor ddiwyd ar eu repertoire dewisol a pharatoi fy nghân ddewisol ‘Pan ddaw’r nos’ i safon mor uchel. Rhaid i mi ychwanegu hefyd fod y myfyrwyr wedi bod yn glod i’w conservatoires. Llongyfarchiadau calonog i’n henillydd talentog, David Karapetian."
Y beirniaid
Yn ogystal â Syr Bryn Terfel y beirniad eraill oedd y cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol o’r Almaen Ute Fesquet, gynt yn Deutsche Grammophon, John Fisher, cyn Gyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth y Metropolitan Opera a chyn Gyfarwyddwr Artistig WNO, y mezzo-soprano o Awstria Angelika Kirchschlager, a’r arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru Carlo Rizzi.
Ar gyfer y flwyddyn lansio hon fe ofynnwyd i gonservatoires yn y DU ddewis myfyriwr i gystadlu. Ond y bwriad yn y blynyddoedd nesaf ydy rhoi cyfle i fwy o bobl trwy glyweliadau ehangach a fyddai yn cynnwys cantorion ifanc o sefydliadau rhyngwladol.
Llun:Kirsten McTernan