Dynes wedi marw ar ôl treulio mwy na 40 awr ar goridor ysbyty yn y gogledd
Mae merch wedi rhannu'r effaith barhaol y mae gofal ar goridor wedi ei gael ar ei theulu yn dilyn marwolaeth ei Mam, a dreuliodd fwy na 40 awr ar goridor yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych.
Bu farw Christine Simpson, 65, o'r Rhyl ar ôl mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion brys gyda hylif ar ei brest yn dilyn X-ray. Roedd yn derbyn triniaeth am ganser y stumog.
Fe ddisgrifiodd ei merch, Michelle Simpson, sut y cafodd ei Mam ei gadael ar gadair blastig am 24 awr cyn cael ei symud i gadair yn y coridor am 18 awr arall.
Wedi iddi gael ei derbyn i'r adran cardioleg, cafodd Michelle wybod bod ei Mam yn yr uned anghywir a bod angen ei symud i ofal critigol.
Mae'n cofio'r adeg y gwnaeth meddyg roi rhagor o fanylion am brognosis ei Mam: "Fe aeth â fi i fewn i ystafell ychydig ystafelloedd i lawr... dywedodd 'Dwi mor sori i ddweud wrthoch chi fod yn rhaid i'w ddraenio (brest Christine), ond fe fydd hyn yn rhoi misoedd iddi...
"'Os nad ydyn ni'n gwneud hyn, dim ond wythnosau fydd ganddi'."
Ychydig wedi'r sgwrs honno, bu farw Christine.
Dywedodd Michelle: "Ni wnaeth unrhyw un ddweud wrthym ni fod Mam yn marw, fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni fod ganddi fisoedd... roedd Mam yn haeddu diwedd heddychlon, wedi ei hamgylchynu gan ei phobl.
"Dwi'n teimlo mor euog oherwydd fe wnes i dreulio'r diwrnod olaf cyfan hwnnw yn eistedd yno, a doeddem ni ddim yn gwybod ei bod hi'n marw."
Ddwy flynedd wedi marwolaeth ei Mam, mae Michelle wedi cael diagnosis o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod gwella gofal brys ac argyfwng yn flaenoriaeth uchel a'i fod yn gwella "sut mae pobl yn cael mynediad at y gofal cywir y tro cyntaf".
"Rydym yn cydnabod maint yr her hon yn llawn ac yn benderfynol o gyflawni gwelliannau parhaol," meddai.
"Mae'r gwaith hwn yn cael ei yrru gan ein Bwrdd, mewn partneriaeth â thimau clinigol a gweithredol, cydweithwyr gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol, a'r trydydd sector."