Galw am dynhau rheolau o fewn y diwydiant harddwch

Galw am dynhau rheolau o fewn y diwydiant harddwch

O bigiadau colli pwysau i wefusau mwy neu gael gwared ar rychau mae triniaethau harddwch yn fwy cyffredin nag erioed.
 
Mewn maes sy'n datblygu, mae pryder nad yw hynny'n wir am y rheolau.
 
"Dyma ni. Croeso i'r Maintenance Clinic.
 
"Dyma lle ni'n cynnal triniaethau i helpu pobl teimlo'r gorau.

"Dw i 'di astudio gwyddoniaeth meddygol yn y brifysgol a mynd ymlaen i wneud training mewn gwahanol triniaethau.

"Wnes i ddechrau efo gofal croen ac ehangu i'r triniaethau eraill.

"Yn y DU ac yng Nghymru, does na'm regulation efo training.

"Fyse rhywun yn medru dechrau treinio a mynd i dreinio.

"Mae'r broblem yn dod lle sdim level playing field efo cefndir pobl."

Wyt ti'n poeni, os na fydd y rheolau'n cael eu tynhau y bydd y diwydiant drwyddi draw'n cael enw drwg?

"Yndw, mae'r triniaethau mor accessible.

"Mae pobl eisiau dechrau gwneud nhw achos bod nhw'n edrych yn lucrative.

"Ond, dyw'r pathway ddim yna i bobl medru setio i fyny mewn ffordd saff.

"Fel unrhyw industry, dyw pobl ddim yn gwneud pethau fel dylsen nhw.

"Maen nhw'n torri corneli ac yn iwso products heb 'di licenseio yn yr UK.

"Gwelwyd outbreak o botulism wrth i bobl iwso botox illegal o dramor.

"Dy'n nhw ddim yn cael eu prynu o'r llefydd iawn."

Mae 'na newid ar droed yn Lloegr.

Bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n gwneud triniaethau harddwch neu bigiadau colli pwysau gael trwydded.

Ond yng Nghymru ar hyn o bryd, dim ond meddygon sy'n gorfod cofrestru.

Mae'n olygu nad oes yn rhaid i eraill gwrdd a'r un safonau na chael eu harolygu yn yr un ffordd.

Dyma sydd wrth wraidd galwad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru am adolygiad cynhwysfawr o'r diwydiant.

"Mae'r deddfwriaeth 'dan ni'n gweithio iddo'n 25 mlwydd oed.

"Mae heb cadw lan gyda'r amser felly mae'r anghysondebau a'r bylchau sy'n ymddangos gyda'r twf yn y gwasanaethau hynny'n peri gofid o ran y risgiau a'r diogelwch i'r cleifion."

Mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio mai ar bresgripsiwn yn unig mae modd cael botox neu gyffuriau colli pwysau.

Mae 'na system drwyddedu newydd wedi'i chyflwyno ar gyfer triniaethau fel nodwyddo, electrolysis, neu i artistiaid tatw.

Bydd ymchwil yn 2026 i ystyried a oes angen rheoleiddio pellach. 

Gyda'r sector harddwch yn tyfu, yr her i reoleiddwyr fydd dal i fyny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.