
Croesawu Parkrun nôl i Gymru

Croesawu Parkrun nôl i Gymru
Mae Parkrun nôl yng Nghymru am y tro gyntaf ers dechrau’r pandemig.
Fe ddechreuodd y ras pum cilomedr yn 2004, ond bellach mae'r Parkrun yn cael ei gynnal mewn 20 o wledydd ar draws y byd.
Mae'r Parkrun yn gyfle i redeg yng nghwmni eraill, gyda rhai yn rhedeg y ras am y tro cyntaf erioed yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
"Dwi wedi mwynhau mas draw," dywedodd John Gillibrand wrth Newyddion S4C.
Dyma’r tro cyntaf i Mr Gillibrand gymryd rhan yn y ras enwog.

"Dwi'n 60 oed nawr a dwi ddim wedi rhedeg o ddifrif ers dyddia ysgol.
"Felly mi oedd yn dra phwysig yno i fi ceisio cadw yn heini edrych ar ôl fy iechyd ac yn y blaen.
"'Da ni gyd wedi mynd trwy brofiad eitha cas yn ystod y flwyddyn sydd newydd fynd heibio.
"A mi o'n i'n teimlo ei fod yn bwysig i mi dalu sylw i iechyd meddwl fi hefyd yr un pryd."
Cyn y pandemig roedd tua 200,000 o bobl yn cymryd rhan yn y rasys ledled Cymru bob penwythnos.
Er bod rhai wedi cael dychwelyd, nid oedd pob Parkrun yng Nghymru wedi ail-ddechrau'r penwythnos hwn.
Dywedodd Peter Bradley, gwirfoddolwr i'r Parkrun yng Nghaerdydd: "Chwarae teg mae bron iawn 500 o bobl wedi troi allan heddiw yn y tywydd yma i neud o.
"A dwi'n siŵr bod nhw'n mynd i ffeindio bod 'na fanteision jyst cael symud. Yn enwedig os wyt ti'n mynd yn hen fel fi 'de."