Rhybudd melyn am law trwm i'r de a'r canolbarth
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i ran helaeth o'r de a'r gorllewin yr wythnos hon.
Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 07.00 fore dydd Mawrth a 23.59 yr hwyr.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhai mannau gael eu heffeithio gan lifogydd erbyn prynhawn dydd Mawrth.
Mae ‘na beryg y gallai cyflenwadau pŵer gael eu heffeithio gan y tywydd garw hefyd.
Fe all y tywydd garw achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal.
Fe fydd y rhan fwyaf o lefydd yn y de, y canolbarth a'r gorllewin yn gweld tua 30-50mm o law ddydd Mawrth, gyda rhai llefydd ar dir uwch yn profi hyd at 60-80mm o law.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid ymestyn y rhybudd ddydd Mercher os fydd y tywydd gwlyb yn parhau nos Fawrth.
Pa ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio?
Fe fydd y rhybudd melyn am law mewn grym yn yr ardaloedd isod:
Abertawe
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Benfro
Sir Fynwy
Sir Gâr
Torfaen
