Ymchwiliad i farwolaeth ‘heb esboniad’ yng Nghastell Newydd Emlyn

Castell Newydd Emlyn

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ar ôl i ddyn farw yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un “heb esboniad” ar hyn o bryd, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Derbyniodd yr heddlu adroddiad am farwolaeth sydyn mewn eiddo ar Ffordd yr Orsaf yn y dref tua 12.00 ddydd Sul.

Roedd y gwasanaeth ambiwlans eisoes yn bresennol ar ôl derbyn adroddiadau am berson nad oedd yn ymatebol.

“Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, yn anffodus cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle,” meddai’r heddlu.

“Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ar hyn o bryd, ac mae ymchwiliad i’r amgylchiadau wedi dechrau.

“Nid oes unrhyw reswm i’r gymuned bryderu.

“Mae perthnasau agosaf y dyn a fu farw wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion. Mae ein meddyliau gyda’r teulu yn ystod yr amser anodd hwn.

“Mae’r crwner wedi cael gwybod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.