Pennaeth y BBC Tim Davie yn ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth dros raglen ddogfen Trump

Tim Davie (PA)

Mae Pennaeth y BBC, Tim Davie, wedi ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth am y ffordd y cafodd araith gan Donald Trump ei olygu ar raglen BBC Panorama.

Mewn cyhoeddiad nos Sul, daeth cadarnhad bod Prif Weithredwr BBC News, Deborah Turness hefyd wedi ymddiswyddo o’i rôl.

Daw wedi adroddiadau yn y Telegraph yn dangos negeseuon mewnol yn y BBC, oedd yn awgrymu bod dwy ran o araith Trump wedi’i golygu er mwyn ymddangos ei fod yn annog y terfysg yn Capitol Hill yn Ionawr 2021.

Mewn llythyr i staff y gorfforaeth ddydd Sul, dywedodd Davie fod “yna rhai camgymeriadau wedi’u gwneud, ac fel y Cyfarwyddwr Cyffredinol, mae’n rhaid i mi gymryd y cyfrifoldeb yn y pen draw.”

Yn y llythyr, dywedodd: “Hoffwn adael i chi wybod fy mod i wedi penderfynu gadael y BBC ar ôl 20 mlynedd.

“Mae hwn yn benderfyniad dwi wedi gwneud fy hun ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r cadeirydd a bwrdd am eu cefnogaeth unfrydol a chryf drwy gydol fy nghyfnos, gan gynnwys dros y dyddiau diwethaf.

“Rwyf yn gweithio gyda’r bwrdd dros amseru fy ymadawiad, er mwyn sicrhau bod yna drosglwyddiad trefnus i’m olynydd dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Cadeirydd y BBC, Samir Shah ei fod yn “ddiwrnod trist i’r BBC” yn dilyn ei ymddiswyddiad.

“Mae Tim wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol arbennig dros y pum mlynedd diwethaf. Mae wedi arwain y BBC ymlaen yn benderfynol a gyda gweledigaeth.”

“Mae wedi bod â chefnogaeth y bwrdd a finnau drwy gydol ei gyfnod. Ond rwy’n deall y pwysau parhaus arno yn bersonol ac yn broffesiynol, sydd wedi arwain at ei benderfyniad heddiw. Mae’r bwrdd cyfan yn parchu ei benderfyniad a’r rhesymau drosto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.