Arestio person wedi gwrthdrawiad 'difrifol' yn Sir y Fflint
Mae person wedi'i arestio yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' yn Saltney, Sir y Fflint ddydd Gwener.
Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan wen a beic modur, toc wedi 18:11 ar gyffordd Stryd Fawr Saltney a Rhodfa’r Parc.
Bu’n rhaid i yrrwr y beic modur a’r person oedd yn teithio ar gefn y beic fynd i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Roedd gyrrwr y fan wedi gadael y lleoliad yn dilyn y gwrthdrawiad.
Yn dilyn apêl gan yr heddlu, mae person bellach wedi'i arestio.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffai swyddogion ddiolch i aelodau'r cyhoedd am eu cymorth yn dilyn ein hapêl ddiweddar mewn perthynas â gwrthdrawiad difrifol yn Saltney ddydd Gwener, 7 Tachwedd.
"O ganlyniad i'r wybodaeth a dderbyniwyd, mae gyrrwr y fan wen dan sylw bellach wedi'i arestio.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb a gysylltodd â ni ac a ddarparodd wybodaeth, teledu cylch cyfyng neu ffilmiau dashcam i gynorthwyo'r ymchwiliad."
Mae’r llu yn parhau i apelio am unrhyw wybodaeth berthnasol neu luniau camera, gan ofyn i unigolion â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod C173199.