Cyngor Sir y Fflint yn cuddio gwybodaeth am gartrefu ceiswyr lloches, yn ôl cynghorydd lleol

Y Byd ar Bedwar

Cyngor Sir y Fflint yn cuddio gwybodaeth am gartrefu ceiswyr lloches, yn ôl cynghorydd lleol

Mae’r cynghorydd David Coggins Cogan, sy’n cynrychioli Y Waun a Gwernymynydd ar Gyngor Sir y Fflint, wedi cyhuddo’r awdurdod lleol o guddio gwybodaeth am gynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches yn yr Wyddgrug yn fwriadol rhag trigolion.

Ers canol mis Awst, mae protestiadau wedi’u cynnal yn gwrthwynebu’r cynlluniau. Mae protestwyr lleol wedi galw am fwy o wybodaeth am y llety sydd wedi’i baratoi ar gyfer 35 person uwchben siop yng nghanol y dref.

Yn siarad gyda rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, dywedodd Mr Coggins Cogan fod y Cyngor wedi gwneud “penderfyniad yn bwrpasol i beidio dweud wrth bobl, peidio dweud wrth aelodau, a pheidio dweud wrth neb”.

Ar ôl clywed am y cynlluniau, dywedodd fod e wedi derbyn “cyfarwyddyd i beidio â’u rhannu’n gyhoeddus rhag rhannu camwybodaeth a dadwybodaeth”.

Mae Mr Cogan yn credu bod diffyg cyfathrebu wedi chwalu ffydd mewn gwleidyddion.

“Mae’n rhaid trin pobl yn ddeallus a chael sgyrsiau.”

Y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am roi llety i geiswyr lloches ar draws y Deyrnas Unedig, nid awdurdodau lleol. Er hynny mae Mr Coggins Cogan yn credu bod “dyletswydd ar gynghorwyr i rannu gwybodaeth pan maen nhw’n ei derbyn”.

Mae e’n credu y byddai’r protestiadau wedi gallu cael eu hosgoi petai’r wybodaeth wedi cael ei rannu ynghynt.

“Mae pobl yn iawn i deimlo’n flin bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud a dydyn nhw ddim wedi cael gwybod.”

'Methu cael ateb'

Mair Dempster-Jones yw un o’r rheiny sydd wedi bod yn protestio ac sydd wedi colli ffydd mewn gwleidyddion.

“ ‘Dan ni’n methu cael ateb gan y bobl ddylen ni fod yn cael ateb ganddyn nhw.”

“Gall 35 o bobl wyddwn ni ddim amdanyn nhw fod yn byw mewn un adeilad yng nghanol y dref efo chwe ysgol o’u cwmpas nhw - pobl does gennym ni ddim syniad, dim byd, amdanyn nhw. Ydan nhw’n criminals?”

“Dydy’r cynghorwyr ddim yn ateb. Mae’n gwneud i ni feddwl eu bod nhw’n cuddio rhywbeth.”

“Dwi ddim yn licio eu ffordd nhw o drin pobl gyffredin sydd â genuine concerns o be’ sy’n mynd ymlaen. Maen nhw’n meddwl gallen nhw anghofio amdanyn ni.”

Mewn ymateb i honiadau Cynghorydd Coggins Cogan, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint taw’r Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am roi llety i geiswyr lloches ar draws y Deyrnas Unedig. Maen nhw, fel awdurdod lleol, yn chwarae rôl gefnogol, drwy weithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref a’i darparwyr llety, i sicrhau bod lles trigolion – presennol a newydd – yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall mewnfudo fod yn fater emosiynol iawn sy’n sbarduno amrywiaeth o safbwyntiau o fewn ein cymunedau, a bod y Cyngor yn cydnabod y pryderon hyn ac yn cytuno bod deialog agored a gonest yn hanfodol.

Maen nhw’n parhau i annog y Swyddfa Gartref i gyfathrebu’n glir ynghylch llety i geiswyr lloches, ac maen nhw’n ymrwymo i sicrhau bod trigolion presennol a newydd yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu, a’u cefnogi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gandryll ynglŷn â nifer y mudwyr anghyfreithlon sydd yn y wlad ac mewn gwestai. Maen nhw’n bwriadu cau pob un gwesty lloches ac edrych ar ddefnyddio canolfannau milwrol a llety segur er mwyn arbed biliynau o bunnau i’r trethdalwr.

Maen nhw hefyd yn gweithio i wasgaru ceiswyr lloches yn deg ledled y wlad, gan ymgynghori gydag awdurdodau lleol ar bryderon lleol.

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Ceiswyr lloches - oes croeso? nos Lun, 20:00, ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.