‘Pwysig i’r genhedlaeth nesaf gofio am ffoaduriad Llanwrtyd’
Mae dynes sy'n wreiddiol o Tsiecoslofacia a oedd yn ddisgybl mewn ysgol i ffoaduriaid ym Mhowys yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi dweud ei bod yn bwysig i’r genhedlaeth nesaf gofio am yr hanes.
Mae’r Fonesig Milena Grenfell-Baines, 95, yn un o’r rhai olaf o grŵp o tua 140 o blant o Tsiecoslofacia a gafodd loches yn Llanwrtyd rhwng 1943 a 1945.
Er mwyn nodi 80 mlynedd ers gadael yr ysgol, fe aeth yn ôl i'r dref gyda chriw o ddisgyblion o Ysgol Tsiec a Slofaceg Okénko yn Llundain.
Y bwriad, meddai, oedd rhoi cyfle i'r disgyblion i ddysgu am hanes y plant a gafodd eu hanfon i Gymru.
"Roedden nhw wedi eu rhyfeddu’n fwy na dim," meddai wrth Newyddion S4C.
"Oherwydd mae’n rhywbeth na allen nhw byth ddychmygu, cael eu rhoi ar drên gan eu rhieni a byw mewn gwlad lle nad ydyn nhw’n deall gair."
Ychwanegodd: "Roedd wir yn brofiad gwerth chweil."
'Un teulu mawr'
Cafodd y Fonesig Milena ei geni yn Tsiecoslofacia yn 1929.
Ym mis Mawrth 1939, roedd yn rhaid i'w thad adael Tsiecoslofacia ddiwrnod cyn i'r Natsïaid oresgyn y wlad oherwydd ei fod yn Iddew ac yn cefnogi'r awdur gwrth-Natsïaidd Thomas Mann. Fe lwyddodd ei thad i ddianc, ond roedd yn rhaid iddo adael ei wraig a'i blant yno.
Yn yr un flwyddyn roedd y Fonesig Milena a'i chwaer fach ymhlith y 669 o blant a lwyddodd i ddianc i Brydain ar drenau a drefnwyd gan Syr Nicholas Winton.
Yn ddiweddarach daeth yn ddisgybl mewn ysgol ar gyfer ffoaduriaid o Tsiecoslofacia yng Ngwesty Llyn Abernant yn Llanwrtyd yn 1943.
Dywedodd y Fonesig Milena fod ganddi atgofion melys o’i hamser yn yr ysgol, gan gynnwys cynnal cyngerdd arbennig i drigolion y dref.
"Dwi’n cofio canu Mae Hen Wlad Fy Nhadau ac o’r diwrnod hwnnw fe wnaethon nhw mwy neu lai ein mabwysiadu ni," meddai.
"Roedden ni’n un teulu mawr, mae erioed wedi bod yn drysor mawr yn ein cof."
Ar ôl i’r ysgol gau yn 1945, cafodd y Farwnes Milena a’i chwaer aduniad gyda’u rhieni a lwyddodd i ddod i Loegr.
Ond doedd hynny ddim yn wir i bawb, gyda rhai plant yn darganfod bod eu rhieni wedi marw mewn gwersylloedd crynhoi’r Natsïaid.
Yn sgil y cynnydd diweddar mewn gwrth-Semitiaeth, mae’r Fonesig Milena yn dweud ei bod yn bwysig cofio am yr Holocost.
"Mae Prydain erioed wedi cael ei hystyried yn lle diogel, dyna pam mae'r gwrth-Semitiaeth yma wir yn fy mhoeni," meddai.
Ychwanegodd: "Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn credu bod 'na bobl yn gangio fyny.
"Dwi’n poeni am be' fydd yn digwydd i fy wyrion a’m gor-wyrion."
Dywedodd Jana Nahodilová, pennaeth Ysgol Okénko, bod y profiad yn un pwysig.
"Mae'n dangos bod modd creu cysylltiadau gwych a ffrindiau ar draws ffiniau, hyd yn oed os nad ydych yn siarad yr un iaith," meddai.
"Mae'n ofnadwy o bwysig i ni, ein plant ni a chenedlaethau'r dyfodol i weld bod 'na ddim ffiniau ymhlith pobl garedig."
Y bwriad ydi dychwelyd y flwyddyn nesaf i blannu coeden fel symbol o gyfeillgarwch y Weriniaeth Tsiec, Slofacia a Chymru.
Mae Ms Nahodilová hefyd yn awyddus i glywed gan gyn ddisgyblion eraill neu unrhyw un sydd ag atgofion neu luniau o’r ysgol yn Llanwrtyd.