Cyfri pleidleisiau etholiad Senedd Cymru diwrnod ar ôl y bleidlais
Bydd pleidleisiau yn etholiad nesaf Senedd Cymru yn cael eu cyfrif yn ystod y dydd, a hynny ar y diwrnod yn dilyn y bleidlais.
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadau wedi cyfarwyddo Swyddogion Canlyniadau Cymru, y bobl sy'n gyfrifol am gynnal etholiadau yng Nghymru, i ddechrau cyfrif y pleidleisiau ar ôl 09.00 (a chyn 11.00) ddydd Gwener, 8 Mai 2026 – y diwrnod ar ôl yr etholiad ar 7 Mai.
Mae cyfrifiadau yn ystod y dydd wedi dod yn arfer cyffredin yng Nghymru bellach, gyda phleidleisiau ar gyfer etholiad Senedd 2021 wedi cael eu cyfrif yn ystod y dydd ar y diwrnod ar ôl yr etholiad.
Roedd pleidleisiau ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2024 ac etholiadau Llywodraeth Leol 2022 hefyd wedi eu cyfrif yn ystod y dydd.
Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol wedi penderfynu parhau â chyfrifiadau yn ystod y dydd ar ôl ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau a'r Comisiwn Etholiadol.
Dywedodd y Bwrdd eu bod yn gobeithio y byddai hynny’n rhoi cyfle i fwy o bobl allu cael y wybodaeth ddiweddaraf o ran canlyniadau wrth iddo gael ei gyhoeddi yn ystod y dydd.
Fe fydd hefyd yn sicrhau y gallai staff orffwys, gan olygu y bydd cysondeb hefyd ledled Cymru o ran pryd y bydd cyfrif pleidleisiau'n digwydd.
'Ymgysylltu'
Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE bod cyfrifon yn ystod y dydd yn galluogi mwy o bobl i fod yn rhan o "gyfrif hollbwysig y pleidleisiau."
“Mae Swyddogion Canlyniadau a’u timau eisoes yn gweithio’n ddiflino i sicrhau etholiad llyfn a diogel ar 7 Mai," meddai.
“Bydd yr eglurder a roddir hefyd yn helpu Swyddogion Canlyniadau i recriwtio a rheoli llwyth gwaith eu staff etholiad.
“Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ddiolchgar i’r Swyddogion Canlyniadau a’r Comisiwn Etholiadol am eu hadborth adeiladol wrth i ni ddatblygu’r cyfarwyddiadau hyn.
“Rydym am i fwy o bobl o bob cwr o Gymru allu ymgysylltu â’r etholiad pwysig hwn, ac mae hynny’n cynnwys gwylio’r canlyniadau’n dod drwodd.”
Pwerau
Er bod yn rhaid i bob cyfrif ddechrau rhwng 09.00 ac 11.00 bore ddydd Gwener 8 Mai - a bydd y rhan fwyaf o etholaethau yn gwirio nifer y papurau pleidleisio ar 8 Mai - mae'r cyfarwyddyd yn rhoi hyblygrwydd i Swyddogion Canlyniadau sy'n dymuno gwirio papurau pleidleisio yn syth ar ôl i'r bleidlais gau am 22.00 ddydd Iau 7 Mai, meddai’r Bwrdd.
Mae’r broses o wirio yn cyfeirio at gyfrif nifer y papurau pleidleisio sy'n bresennol i wneud yn siŵr ei fod yn cyfateb i nifer y papurau pleidleisio a gyhoeddwyd.
Nid yw'r broses wirio yn cynnwys cyfrif nifer y pleidleisiau ar gyfer unrhyw ymgeisydd neu blaid. Disgwylir y gall nifer fach o Swyddogion Canlyniadau ddewis gwirio dros nos.
Sefydlwyd y Bwrdd Rheoli Etholiadol yn 2025 yn dilyn Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i gydlynu etholiadau datganoledig yng Nghymru.
Mae ganddo bwerau i gyflwyno cyfarwyddiadau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gynnal etholiadau datganoledig.
Mae cyfarwyddiadau eraill a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol yn cynnwys materion fel lliw papurau pleidleisio, cyhoeddi hysbysiadau etholiad, a phleidleisiau post.
