'Angen mwy o fuddsoddiad' i gadw disgyblion ieithoedd modern yn y wlad

Newyddion S4C
Tom

Mae angen rhagor o fuddsoddiad a hyfforddiant ar athrawon i sicrhau nad yw'r nifer o ddisgyblion sy’n astudio ieithoedd tramor modern fel pynciau Safon Uwch, yn dirywio ymhellach.

Dyna neges British Council Cymru, wrth i’w ffigyrau diweddara ddangos gostyngiad pellach yn nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd tramor ar ôl cwblhau cwrs TGAU.

“Yn anffodus does dim llawer o athrawon sydd wedi cael eu hyfforddi o ran dysgu ieithoedd. 

"So o ran yr ariannu, mwy o hyfforddiant iddyn nhw, ac ariannu mwy o ysgolion i roi’r dosbarthiadau ieithoedd ymlaen. Heb yr arian yna, mae’r sefyllfa mynd i waethygu,” medd Tom Davies-Lyons o'r British Council Cymru.

Mae’r sefyllfa’n un sy'n poeni athrawon.

“Mae e’n dipyn o ofid mewn gwirionedd. Mae hwn yn rhywbeth sydd wedi bod yn poeni athrawon ieithoedd modern ers blynyddoedd,” yn ôl Ceri Anwen James, Dirprwy bennaeth Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd, sydd hefyd yn dysgu Almaeneg.

'Colli mas'

Mae nifer y disgyblion sy’n astudio Ffrangeg fel pwnc Safon Uwch wedi gostwng 30% mewn blwyddyn. Roedd 242 o ddisgyblion yn astudio’r pwnc llynedd, a dim ond 169 sy’n gwneud hynny eleni.

Mae’r patrwm o ran Almaeneg, hyd yn oed yn fwy pryderus. Roedd 62 o ddisgyblion yn astudio’r pwnc llynedd, 42 sydd wrthi eleni, ac mae British Council Cymru’n rhybuddio y gallai’r pwnc ddiflannu’n llwyr o’r cwricwlwm ymhen tair blynedd.

“Mae ‘na dalpau enfawr o Gymru bellach ble chi’n gallu byw a dydych chi ddim yn gallu dysgu Almaeneg mewn unryw ysgol gyfagos. 

"Mae hynny’n golygu bod ein plant ni’n colli mas ar y  cyfleoedd yna sydd ar gael yn Lloegr ac yn y blaen, ac mae’n plant ni fod yn gallu cystadlu gyda’r farchnad swyddi ac ar y farchnad ryngwladol.

"Ni’n amddifadu’n plant ni o’r cyfleoedd yna,” medd Ceri Anwen James.

Mae cyfleoedd i astudio Ffrangeg ac Almaeneg yn Ysgol Bro Edern. Mae’r cyrsiau’n rhai poblogaidd, a’r disgyblion yn gweld budd mawr o’u dilyn.

“Rwy’n meddwl mae fy sgiliau cyfathrebu wir wedi elwa o ddysgu Almaeneg,” meddai Haydn, 17 oed.

Image
Hayden
Haydn

“Mae wedi bod yn allweddol i fy nyfodol  i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg wrth ystyried mae nifer o Brifysgolion eisiau i fyfyrwyr wybod dwy iaith,” meddai Nel, 17 oed.

Image
Nel
Nel

“Mae dysgu iaith wahanol yn sgil really cool i neud, oherwydd mae gen ti, wrth gwrs Saesneg a Cymraeg ac wedyn mae’r trydydd un yn really buddiol hefyd,” medd Steffan, 16 oed.

Image
Steffan
Steffan

“Fi’n teimlo bod dysgu iaith yn rhywbeth hynod o brydferth, a diddorol, ac er bod e’n waith caled mae’n rhywbeth gwerthfawr i gael,” ychwanegodd Ruby, 16 oed.

Image
Ruby
Ruby

Ond er gwaetha poblogrwydd y cyrsiau yn Ysgol Bro Edern, mae ffigyrau British Council Cymru’n dangos bod y niferoedd, yn gyffredinol wedi bod yn gostwng yn gyson ers 11 mlynedd.

Mae hynny’n poeni Mared Gwyn sy’n byw ym Mrwsel ac yn gweithio fel newyddiadurwr i Euronews, sianel sy’n darlledu mewn 13 o ieithoedd.

“Dwi’n meddwl bod e’n bryderus bod y niferoedd yn disgyn," meddai Mared Gwyn."

‘Da ni isie parhau i fod yn genedl agored sy’n gallu creu pontydd a chysylltidau gyda diwylliannau newydd ac mae’r ffaith bod pobl ifanc yn dysgu ieithoedd ac yn mynd i’r gwledydd yma i astudio, i weithio, i gael y profiad yn rhywbeth sydd yn ein cyfoethogi ni hefyd fel cenedl.”

Pwysleio mae Llywodraeth Cymru bod nifer y disgyblion sy’n astudio iaith dramor fodern fel pwnc TGAU wedi codi am yr ail flwyddyn yn olynol, a bod hynny’n galonogol.

Maen nhw hefyd yn nodi bod £1.6 miliwn yn ychwanegol wedi ei fuddsoddi i hybu’r defnydd o ieithoedd tramor modern.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.