Newyddion S4C

Llofruddiaethau Clydach: David Morris wedi marw yn y carchar

Wales Online 21/08/2021
David Morris

Mae David Morris, y dyn a gafwyd yn euog o lofruddiaethau Clydach, wedi marw yn y carchar.

Fe gafodd Morris ei garcharu wedi iddo lofruddio pedwar aelod o'r un teulu yn eu cartref yn sir Abertawe ym 1999.

Fe dreuliodd 22 mlynedd yn y carchar am lofruddio Mandy Power, ei dwy ferch - Katie, 10 oed, ac Emily, wyth oed - a'i mam, Doris Dawson, 80 oed.

Roedd yn cael ei ddal yng ngharchar Long Lartin yn Sir Gaerwrangon, meddai WalesOnline.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.