Newyddion S4C

Oes newydd ar gyfer pêl-droed menywod Cymru

ITV Cymru 21/08/2021

Oes newydd ar gyfer pêl-droed menywod Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datgelu enw, strwythur a hunaniaeth newydd ar gyfer y gêm i fenywod wrth i gynghrair newydd gael ei lansio yng Nghymru.

Mae’r Cynghreiriau Adran Genero yn cynnwys haen uwch, sef yr Adran Premier, sy'n cynnwys wyth tîm, yn ogystal â dwy haen ranbarthol, Adran y Gogledd a'r De, gydag wyth tîm yr un yn cystadlu ynddynt.

Mae cynghrair ranbarthol newydd i fenywod dan 19 oed wedi ei lansio hefyd.

Cafodd y gynghrair dan 19 ei gyflwyno i bontio'r bwlch rhwng pêl-droed ieuenctid ac oedolion, gyda dros 20 o dimau newydd sbon wedi eu lansio ledled Cymru.

Dywedodd capten tîm menywod CPD Y Barri, Lauren Harris: “Fi’n meddwl bod e’n wych i ddweud y gwir. Mae bendant wedi rhoi bach mwy o sylw i’r gynghrair ac yn enwedig i bêl-droed yng Nghymru’n cyffredinol. 

"Mae wedi rhoi llwyfan newydd ac mae’n dangos datblygiad pêl-droed yng Nghymru. Mae’n dangos bod Cymru’n barod i ddenu a magu’r dalent yma trwy’r clybiau.”

Yn ôl Harris, mae hi'n "allweddol" sefydlu'r gynghrair dan 19.

Ychwanegodd: “Mae’n allweddol bod cynghrair a thimau dan 19 'di cael eu sefydlu. Dyw pobl ddim yn sylwi faint yw’r bwlch rhwng pêl-droed dan 16 a thimau cyntaf. Mae’r gêm llawer mwy corfforol, mae lot yn gyflymach ac mae llawer o dactegau yn mynd mewn i’r gêm. 

"Bydda fe’n lleihau’r gap tipyn bach ac yn sicrhau bod y chwaraewyr yma yn gyfforddus a hyderus yn dod mewn pan mae’r amser yn barod i chwarae pêl-droed tîm cyntaf.

Creu cydraddoldeb

Mae CBC wedi penderfynu tynnu'r gair 'menywod' o deitl y gynghrair mewn ymdrech i greu cydraddoldeb ar draws yr holl gynghreiriau.

Cymru felly yw'r drydedd wlad yn Ewrop, a'r cyntaf yn y DU, i wneud newid o'r fath.

Image
Lowri Roberts
Mae Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-Droed menywod CBC, yn gyffrous am ddyfodol pêl-droed menywod yng Nghymru. Llun: Lowri Roberts  

Yn ôl Lowri Roberts, pennaeth pêl-droed menywod CBC, mae’r newid yma’n synhwyrol.

“Dy ni wedi dileu'r gair ‘women’/‘menywod’ o’r teitl, achos ‘dy chi ddim yn rhoi enw ‘dynion’.

“Os mae gyda ni enw rili cryf a brand gwahanol iawn i gêm y dynion, pam sydd angen i ni roi'r enw ‘merched’ ynddo fo? 

"Ar ddiwedd y dydd dim ond pêl-droed yw e.”

Ond, nid pawb sy’n hapus gyda’r newid i’r cynghreiriau.

Mae’r ail-strwythuro yn golygu roedd rhai clybiau menywod oedd yn chwarae ar y lefel uchaf wedi cael ei israddio i’r haen is.

Roedd proses ymgeisio i gael mynediad i’r Adran Premier, ac yn anffodus, nid oedd rhai timoedd yn cwrdd â’r safonau oddi ar y cae.

“Dy ni wedi mynd trwy ail-strwythuro cyflawn felly oedden ni yn dechrau o’r dechrau unwaith eto,” esboniodd Lowri. 

“O’n ni’n dod â ‘licence criteria’ ac agor e fynnu i unrhyw un dod mewn a ni’n asesu nhw ar bethau gwahanol. 

“Mae e wedi bod yn adeg heriol iawn i’r FAW ac i’r clybiau gan fod mae 'na tri chlwb oedd yn yr hen byramid rŵan wedi cael ei rhoi yn yr Adran South ac nid yr Adran Premier.”

Nid yw tîm menywod Y Fenni wedi llwyddo i gyrraedd yr Adran Pemier.

Dwedodd Stuart Summers, ysgrifennydd y clwb: “Yn y bôn ar ôl naw mlynedd yn olynol yn y gynghrair uchaf o bêl-droed merched Cymru a bod y 4ydd tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gynghrair, cafodd y Fenni eu hisraddio i haen 2.

“Trefnwyd a sgoriwyd y broses ymgeisio ar gyfer yr Adran Premier gan y FAW o dan raglen ailstrwythuro. 

“Cam un oedd sicrhau ni’n cwrdd â’r gofynion ac fe basiom ni ynghyd ag 11 clwb arall.

"Cam dau yn gyflwyniad i banel o staff a benodwyd gan y FAW. 

“Dwedon nhw [CBC] ar ôl y cyflwyniad ein bod ni’n nawfed ar y rhestr ac felly'n cael ei israddio i haen dau.

“Yn naturiol, rydym wedi’n cythruddo gyda'r penderfyniad ac wedi ymgyrchu trwy lywodraeth Cymru, AS lleol ac ar gyfryngau cymdeithasol i gael adolygiad annibynnol o'r broses.”

Serch hynny, mae Lowri Roberts yn dweud bod modd i dimau symud o un cynghrair i'r llall ar sail perfformiad.

“Er i dimoedd cael ei israddio, nid yw’n golygu na allwn gael ei hyrwyddo nôl i’r Adran Premier ar sail perfformiad," dywedodd Roberts.

“Dy ni’n gweithio’n agos iawn gyda’r clybiau i gefnogi nhw ac i neud yn siŵr bod nhw’n barod i ddod 'nôl mewn i’r Adran Premier os maen nhw’n ennill promotion.”

Llun: CBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.